Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IX.

Y PLANT A'R HEN DDOCTOR.

Er fod fy neiaint yn teimlo hiraeth am eu mham a Chariad a'u chwaer fach ar adegau, ac yn enwedig pan oedd yn bryd iddynt fyn'd i'r gwely, nid oes angen dweyd iddynt fwynhau eu hunain yn fawr yn Abertawe. Dydd Sul es a nhw i'r capel, a mawr oedd eu rhyfeddod wrth glywed yr organ—neu'r machine, fel y galwai Marged ef—a'r dorf fawr yn canu, a'r hen ddoctor anwyl yn pregethu. Nid oedd Gwilym a Benni yn cofio eu tadcu, tad eu mham,—yr oedd wedi marw cyn côf ganddynt ac yr oeddynt wedi cenfigenu lawer gwaith wrth blant ereill mwy ffortunus na nhw. Ond pan welsont уг hen ddoctor a'i farf wen hir, a'i wallt fel yr eira arian-deg, a'i wyneb rhuchiog yn llawn hynawsedd, ac yn enwedig pan glywsont ei dôn leddf yn rhoi emyn allan i ganu, credasant ar unwaith mai eu tadcu oedd. Gwnes fy ngoreu i'w hargyhoeddi o'u camgymeriad, ond buasai yr un peth i mi dreio dweyd wrth y gwynt i ble i chwythu a cheisio ffrwyno dychymyg y ddau blentyn ar ol iddo gael haner awr o flaen arnaf.

'Ond mae e'n gymws fel y llun sy' gyda mami yn yr album,' meddai Gwilym.

'Odi,' meddai Benni, a 'rodd y dynon i gyd yn llefain yn y crwdd fel mae mami yn gneyd wrth siarad amboitu tadcu.'

'Ag 'rodd Marged yn llefen hefyd, man gwedson ni wrthi hi, mai tadcu oedd e', ychwanegai Gwilym, mi wedodd hi wrth Benni, 'mae e'n ddigon da i fod yn dadcu i chi.