Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wel, wel,' meddwn inau o'r diwedd. os odi chi am i ga'l e'n dadcu, mi gynta bydd yr hen ddoctor yn eitha' bolon.'

Ac fel yna y terfynodd yr ymddiddan ar y pryd.

Prydnawn dydd Llun, sef dydd Nadolig, pan oeddwn yn dychwelyd i Gadog Street ar ol ymweled âg un o'r cleifion, beth oedd fy syndod pan welais y ddau blentyn yn cerdded i'r lan heibio'r farchnad, a rhyw ddyn mawr afrosgo rhyngddynt, a'i ddwy law yn eu dwy law nhw. Edrychais eilwaith. Rhwbiais fy llygaid. Ie; nis gellid camsynied y corff tàl, y gwyneb wedi ei dyllu gan y frech wèn, y dwylaw mawr, a'r cerddediad araf. Yr hen ddoctor oedd, ac yn nwylaw Gwilym a Benni Bach! Yr oedd ef mor dàl, a nhwythau mor fychain, fel yr oedd yn rhaid iddo blygu llawer cyn y gallai eu cyrhaedd. Ond nid oedd hyn fel pe yn ambaru dim ar ei fwynhad. Cerddai gan ei bwyll gyda'r ddau, clustfeiniai ar eu hymadrodd, ac yr oedd gwen foddhaus yn sirioli ei wynebpryd. Nid oeddwn yn ddigon agos atynt i glywed yr ymddiddan, a phan oeddwn eto gryn bellder oddiwrthynt canfyddodd llygad craff Gwilym fi, a gwaeddodd nes y troiodd pawb i edrych beth oedd yn bod.

'Tadcu, tadcu, dyco 'nwncwl yn dwad.'

Wel, doctor bach,' meddwn, gan chwerthin, oblegid yr oedd golwg mor ddigymorth ar yr hen bregethwr er ei holl fwynhad, ac yr oedd chwys ar ei dalcen er mai'r Nadolig oedd hi, 'shwd eich caethgludwyd chi fel hyn, hawyr?'

Cyn iddo gael amser i ddweyd gair, dyma Gwilym yn. dechreu arllwys ei stori.

'O 'nwncwl,' meddai, pam o'ech chi'n gweyd mai nid tadcu oedd e? Mae e'n gweyd taw tadcu yw e'. Mae e' wedi dwad lawr o'r nefodd i'n gwel'd ni,' dywedai Benni Bach.