Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Os gyda chi adenydd i ga'l, tadcu?' gofynai Benni Bach.

Methodd yr hen ddoctor a pheidio chwerthin wrth glywed hyn.

'Wel, glanach i ti grwt,' meddai 'mi golchest hi'r tre yma.'

'Ond mae adenydd i ga'l gan angylion,' ebai Benni 'Shwd ych chi'n gwbod hyny?' gofynai'r doctor. 'O, mi welws Gwilym ein whar fach yn cwato yn y plyf,' atebai Benni.

'Wel, wi'n meddwl hyny,' meddai Gwilym gyda phwyslais.

Na, mhlant i dywedai'r doctor, nid angel w i, a nid o'r nefodd y des i, a mae arnai ofan nag af i byth упо.

'O ble deso chi, 'te, tadcu?' holai Gwilym. 'Mae mami'n credu taw yn y nefodd yeh chi.'

'Ie, ïe, machgen bach i,' atebai'r hen wr.

'Mae ch mam yn eitha' reit. 'Ro'wn i'n nabod eich tadcu yn dda, a mae e'n siwr o fod yn y nefodd.

'Welsoch chi e' yno, 'te?' holai Gwilym.

'Naddo i,' meddai'r hen ddoctor yn ddyryslyd. 'Shwd 'ych chi'n gwbod ei fod e yno 'te?' gofynai Gwilym.

Bu'r hen dduwinydd yn petruso ffordd i ateb am fynud. Yna dywedodd yn ei ddull tirion ei hun,

Mae'r Beibl yn gweyd mai i'r nefoedd yr aiff pob dyn da wrth farw, ac ni fu gwell gwas erio'd gan Iesu Grist ar y ddaear na'ch tadcu.'

A nid chi yw'n tadcu ni 'te,' dywedai Gwilym yn llawn siomiant

'Mi lewn i i fod yn dadcu i chi'ch dau fach, os 'ych chi'n folon,' meddai'r doctor.

'Dyna chi, 'nwncwl,' torodd Gwilym i mewn yn orfoleddus, ro'n ni'n siwr taw tadcu oedd e'.