Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynych ar ddarlun o'r nefoedd oedd efe wedi roddi iddynt, ac y byddent yn dweyd wrth eu chwaer fach am y lle dedwydd, ac y byddent yn rhoddi cusan bob nos. wrth fyn'd i'r gwely i'r darlun a gawsant o Iesu Grist. Ac yntau a'u bendithiodd hwy drwy ei ddagrau, ac a erfyniodd ar Dduw i'w nhoddi a'u hymgeleddu a'u cadw rhag profedigaethau a phechodau'r byd, a'u dwyn yn ddiogel i'r mynyddoedd bendigaid. Ac yna, efe a ffarweliodd drachefn, ac a ddychwelodd yn ôl i'w le ei hun.

Ffarwel, hen Gristion addfed! Nis gwelodd Gwilym a Benni Bach ef mwyach. Cyn iddynt ddychwelyd i Blas Newydd yr oedd yr hên weinidog wedi ei gymeryd yn glaf, a chyn pen blwyddyn yr oedd wedi ei osod i orwedd yn nhir ei hir gartref. Y tro diweddaf y gwelais ef, siaradai, gyda theimlad dwys, ond nid heb londer ysbryd, os nad hefyd beth digrifwch diniwed, am y dydd Nadolig hwnw dreuliodd yng nghwmni fy neiaint, a chredaf mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth ar ol cyrhaedd adref oedd chwilio am dadcu Gwilym a Benni Bach i ddweyd y stori wrtho—oblegid ni fu ei fath erioed am ddweyd stori—am ei wyrion bach yn Abertawe.