Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Gwd neit, 'nwncwl bach,' meddai'r ddau, gan ddodi eu breichiau am fy ngwddf, a'm cusanu.

Nos da, 'mhlant i,' meddwn inau, gan gauad y drws ar eu hol.

Ar ol cael gwared ar y plant, diosgais fy esgidiau oddiam fy nhraed, gwisgais fy slippers, tynais fy mhib. felusaf o'i chuddle yn y cwpwrdd, troes y gadair freich iau esmwythaf at y tan, gosodais fy nhraed, un ar ben y llall, ar y pentan bach, a rhoes fy hun i fyny i weu dychmygion yn ol fy ffansi wrth wylio'r cymylau mwg yn esgyn at y nenbren. Rhedai fy meddwl yn ol ar draws geiriau Gwilym, a'i adroddiad diniwed o farn Marged. Ac wrth i mi fyfyrio, syrthiodd arnaf ryw awydd na theimlais oddiwrtho na chynt na chwedyn— awydd i gyfansoddi barddoniaeth! Ymladdais cyhyd ag y gallwn yn erbyn y fath ffolineb. Dywedais wrthyf fy hun nad oedd dim barddoniaeth yr un groen a mi, na wyddwn ddim am y rheolau, ac na wnes, yn ystod yr wyth mlynedd ar hugain o'm bywyd, geisio cyfansoddi nac englyn na phenill erioed o'r blaen. Ond ni thyciai dim, na rheswm na synwyr cyffredin nac, hyd yn oed, fy niogi cynhwynol yr hwn sydd yn gryfach na'r ddau.

Eisteddais wrth y ford. Llenwais fy mhib drachefn. Pigais gwilsen newydd, yr hon oedd heb ei llychwino erioed ag inc. Taenais o fy mlaen ddalen lydan o bapur gwyn, a disgwyliais am yr awen. Nis gallaf byth anghofio'r poen a ddioddefais y noson hono. Bum yn brwydro, fel pe bae fy mywyd yn y glorian, am ddwy awr a haner, ac yr oedd fy ysbryd ystormus yn cynghaneddu â swn y gwynt oedd yn chwythu o gylch y ty. Nis gallaf gyfrif pa sawl tudalen a bapyr a lenwais ac a ddistrywiais. Treiais Gymraeg a Saesneg, a phe gwyddwn iaith arall buaswn wedi ei threio hithau hefyd. Gwnes restr o eiriau oedd yn odli yn Gymraeg ac yn Saesneg; ond methais yn lân a chael brawddegau