Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w taro, a phan y cawswn afael mewn brawddeg, yr oedd yn rhaid i mi ddefnyddio'r gair yn rhywle cyn diwedd y llinell. Pan orffwysais oddiwrth fy llafur oblegid byddai yn anghywir dweyd i mi ei orffen—yr oedd y tân wedi myned allan, fy mhib wedi syrthio ar y llawr, a'r chwys mawr, er gwaethaf yr oerfel, yn dalpau ar fy nhalcen! Es drwy lawer profiad chwerw yn fy nydd a'm tymhor, ond byddai yn well genyf sefyll yr arholiad anhawddaf yn Hospital Sant Bartholomew neu gyflawni yr operation afrwyddaf, na threio byth eto ysgrifenu barddoniaeth. Gwell genyf osod coes nag odl yn ei lle, a rhwyddach asio esgyrn briw chwareuwyr pel droed, na chlymu pedair llinell wrth eu gilydd! Byth oddiar y noswaith hono, y mae yn destyn syndod i mi fod golwg mor siriol ar ein beirdd. Mae Elfed a Watcyn Wyn a Dyfed yn troi allan bob dydd o'r flwyddyn fwy o benillion nag a gyfansoddais i ar hyd fy oes, ac nid ydynt yn edrych yn ddim gwaeth ar ol gwneyd. Ond dyna, ys dywedodd y gwaddotwr wrth yr offeiriad pan y gwelwyd ef yn dal gwaddod ar ddydd Sul: 'Pob un a'i grefft, syr, chi a'ch pader a finau a'n nhrap.'

Nid, gan hyny, am fy mod yn teimlo unrhyw falchder yn y penillion, y rhoddaf hwynt yma, ond yn unig am fod yn rhaid i mi wneyd, os mynaf egluro'r hyn a ddigwyddodd ar ol hyn. Nid oeddwn wedi cyfansoddi ond pedair llinell, a dwy odl ym mhob penill. Gobeithio na syrthiaf yn isel iawn ym meddwl neb, os cyfaddefaf i mi ddarllen y penillion drosodd a throsodd cyn myn'd i'r gwely, weithiau yn ddistaw, bryd arall yn uchel. Teimlwn, hefyd, fod ysbryd y peth byw yn trigo ynof, ac nad oedd eisieu i mi ond ymroddi i'r gwaith i enill cadeiriau godidocaf ein Heisteddfodau! Na wged neb wrth ddarllen hyn o gyfaddefiad gonest. Y nos oedd hi, a phan ddarllenais y penillion liw dydd, gwridais wrth gofio fel yr ymfalchiwn ynddynt y noswaith hono. Ar ôl eu darllen drachefn a thrachefn, eisteddais.