Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Nawr, 'nawr, Tom,' meddwn inau, mae'n rhaid i chi,' gan saco darn arian yn eu gilddwrn.

Wel, yn 'y ngwir i, 'down i ddim yn dishgwl dim, Doctor,' atebai Tom, gan roddi'r awenau yn fy law. Ac yna, trodd ei gefn arnaf, cymerodd gipolwg ar y swllt oedd yn ei law, a chyn ei ddodi yn ei boced poerodd arno er ei wneyd yn 'ebol glâs lwcus.'

Ar ol cryn helynt, cychwynasom o'r diwedd tua Phlas Newydd y fi a Gwilym a Benni y tu blaen, a Thom y tu ol. Er nad yw Plas Newydd ond milltir o ffordd o'r stesion, buem dros haner awr cyn dyfod yno. Ychydig yr ochr arall i'r stesion saif Bryn Hyfryd,—'Ty Prydferth' Gwilym. Pan ddaethom ato, gwelsom Gariad a'i mham yn aros wrth y glwyd sydd yn arwain i'r ty. Ac yno yr arosasom am amser, pawb yn siarad yr un pryd, ac yn holi, ac yn ateb, ac yn chwerthin, ac ni fuasem wedi gallu tynu ein hunain yn rhydd o'r diwedd, oni bai i Gariad addaw y deuai i dê i Blas Newydd yn y prydnawn. Yna, wedi dyfod at yr efail, yr oedd Nat, tad Marged, yn disgwyl am danom, a bu raid i ni aros am amser

gydag ef, yn ateb ei holiadau ynghylch ei ferch. Ond o'r diwedd cyrhaeddasom Blas Newydd, ac o'r fath ffair a ffwdan fu yno! Rhedodd y morwynion allan i'r clôs i helpi fy neiaint lawr o'r trap ac i'w croesawi gartref. Yr oedd Dafi'r gwas mawr wedi cael rhywbeth i wneyd yn y siop waith,'—lle yr arferai helpi'r clwydydd, neu osod coes newydd mewn rhaw, ar ddiwrnodau glyb,—a phan ddaeth y cerbyd i'r clôs yr oedd yntau yno yn ein disgwyl. Yr oedd John y cow— man yn un o'r beudyau, a gwaeddodd flwyddyn newydd dda i ni drwy'r drws agored. Cyn i'r plant gael amser i fyn'd i'r ty, yr oedd Henri wedi dod allan. Credai Henri fod penteulu yn iselhau eu hunan drwy ddangos ei deimlad yn rhy eglur, a threiodd roddi cusan i̇r ddau blentyn, fel pe byddai heb deimlo ei galon yn dychlamu wrth eu gwel'd. Ond dyma'r tro cyntaf erioed iddynt