fod oddicartref, ac nis gallai Henri, er ei dawelwch. digyffro arferol, lai na dangos ei falchder a'i lawenydd wrth eu derbyn yn ôl gartref. Ar ol eu croesawi a'u cusanu yn garuaidd, meddai:
Cerwch yn glou 'nawr i'r nouadd. Mae mami yn eich disgwyl yno ers amser.'
Ac ymaith y rhedodd y ddau am y cyntaf at eu mham gan fy ngadael ar y clós gyda Henri. Pan ddaethom. ninau yn ein tro i'r neuadd, yno gwelsom Elen a'r babi bach ar ei gliniau, a gwên gariadlawn a boddhaus ar ei gwyneb, a Gwilym a Benni Bach yn syllu ar eu chwaer newydd.
Odi hi'n gallu siarad, mami?' gofynai Gwilym. 'Grwt bach,' atebai Elen, nag yw yto. Ond mi ddaw hi i siarad digon, mi fentra, neu mi fydd yn ots i ti.'
Edrychai y pedwar mor brydferth gyda'u gilydd, ac yr oeddynt yn gwneyd darlun mor gyflawn ynddynt eu hunain, fel y teimlwn am y tro cyntaf yn ddieithr—ddyn yn nhy fy chwaer. Gyda ein bod ni wedi croesi'r troth— wy, gwelodd Elen ni, a galwodd arnaf, yn eu dull serchog, i eistedd wrth y tan i dwymo, a dechreuodd ofyn cwestiynau lawer i fi ynghylch Marged a'r hen ddoctor ac ereill o'i chydnabod yn Abertawe. Ac felly ni pharhaodd y teimlad o ddieithrwch yn hir.
Ar hyd y dydd hwnw yr oedd gan Gwilym a Benni Bach ddigon o waith i ymweled a'u hoff fanau ynghylch y ty. Aethant drwy'r ysgubor, a'r tri beudy, a'r stabal, a'r cartws, a'r storws, a'r briwdy, a'r glody, a'r gegin. maes. Ymwelasant a nythod y gieir, a chasglasant un wy ar ddeg o honynt oblegid ni wyddai neb o gylch y ty, ond y nhw, am bob nyth. Aethant am dro hefyd i'r ardd a'r berllan, lle yr oedd beddrod Moss, hen gi defaid ffyddlon, fu'n chwareu llawer gyda nhw; a buont yn gwario peth amser yn y llwyn arel o flaen y ty, yn