Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hwn yr oeddynt wedi hongian cloch, a'r lle y byddai Gwilym yn arfer pregethu, ac y gwasanaethai Benni Bach fel clochydd. (Öblegid rhyfeddwn yn fynych fel y mynent ganu y gloch cyn dechreu'r wasanaeth, er mai Salem ac nid yr Eglwys yr arferent fynychu.)

Rhaid i mi gyfaddef na wariais erioed ddiwrnod mwy diflas ym Mhlas Newydd. Disgwyliwn beunydd am yr awr dê i ddod, ond nid yn amyneddgar. O'r diwedd es allan i'r ardd, cerddais yn ol ac ymlaen ar hyd yr ale, ac er mwyn hala'r amser rywffordd, tynais y penillion oeddwn wedi gyfansoddi allan o'm poced, a darllenais nhw drostynt gyda llawer o flas a boddlonrwydd. Blin— ais ym mhen tipyn ar gerdded yn yr ardd, a dych— welais i'r ty. Yna es i'r llofft i ymolchyd a thrwsio tipyn erbyn tê: a phan ddes lawr drachefn, dywedodd Elen wrthyf, a gwên yn chwareu ar eu gwefusau:

Mae Miss Bifan wedi dwad, John.'

'Odi hi?' gofynais, mor ddidaro ag y gallwn.

Odi, mae hi wedi mynd mas i whilo am y plant a'u mhoin i dê,' meddai Elen. A fyddech chi'n gweld bod yn dda i fynd i ddryched am deni nhw, a gweyd wrthi nhw fod te yn barod?'

'O'n gore' meddwn inau, gan gydio yn fy hat, a chychwyn yn ebrwydd.

Pan ddes yn agos at y llwyn arel clywwn swn fy neiaint yn siarad yn uchel a Miss Bevan.

'Ie, chi pia fe,' meddai Gwilym, 'waith 'rodd 'nwnc— wl yn gweyd ei fod e yn ffrynd anghyffredin i chi.'

Hisht, hisht,' meddai Miss Bevan, rhaid i chi beido gweyd rhywbeth fel yna.'

'Rodd Marged yn gweyd,' ychwanegai Benni Bach, 'i fod e bron dwlu am danoch chi.'

Nawr, 'nawr,' atebai Miss Bevan, gan chwerthin, os ych chi myn'd i siarad fel hyn, mi eiff Cariad 'nol gatre'.'