Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am beth amser. Ond dyma fe'n tynu papyr ym mhen enyd o'i boced ac yn ei estyn i fi, gan ddweyd,

Dyna bapyr gwmpws o'ch poced chi, 'nwncwl, a mi gas Benni a fine afel yndo fe, a mae Cariad yn gweyd—

'Nawr, Benni Bach,' torodd Miss Bevan i mewn, newch hast i ddwad at mami.'

Ac yr oedd yn amlwg am redeg ymaith i'r ty gyda fy neiaint, a'm gadael eto heb ateb. Ond syrthiodd ar fy ysbryd ryw benderfynolrwydd newydd. Dodais y papyryn yn fy mhoced heb edrych arno, a dywedais wrth y plant,

'Nawr, rhedwch i'r ty ar unwaith.'

Ac wedi iddynt gymeryd at eu traed, gosodais fy llaw ar ysgwydd Miss Bevan, a gofynais iddi am aros am fynud cyn eu canlyn.

Llwyn arel yng nghornel gardd syml Plas Newydd! Dyna'r lle anwylaf yn y byd i mi. Cyfyd ei ddelw yn fyw i'm cof wrth ysgrifenu, a mynych yr adroddaf wrthyf fy hun yr ymddiddan a gymerodd le yno flynyddoedd yn ôl rhwng Cariad a minau. Cofiaf fy ngeiriau trwsgwl i, ac y mae ei hatebion tyner hi wedi eu cerfio yn anileadwy ar lech fy nghalon. Ond. er cofio, ni chaiff neb yr hanes genyf, ond feallai fy mhlant neu'm hwyrion yn y dyfodol pell; canys y mae rhai pethau mor gysegredig fel na sieryd neb ond ffol am danynt tuallan i gylch cyfrin ei deulu. Digon i ti wybod, ddarllenydd caredig, i ddau ddyn ieuanc, y dwthwn hwnw, gyflwyno eu bywyd, un i ofal y llall, ac i minau wneyd adduned, yr hon ni thorir, mi obeith— iaf, ond gan law oer angeu, i garu ac ymgeleddu rhag pob cam a niwed, rhag pob trallod a drychin, un of ragorolion y ddaear!

A phan aethom i mewn i'r ty, a dywedyd wrth Elen, bu Elen yn chwerthin rhwng ei dagrau, ac yn dweyd ei bod yn gwybod er's llawer dydd mai fel hyny y