Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buasai pethau yn troi maes. Ac yna aeth Elen a Chariad gyda'u gilydd i ystafell arall, ac yr oedd yn hawdd deall pan ddaethant allan iddynt fod yn wylo, fel y gwna gwragedd pan fyddo'n adeg o lawenydd mawr. A phan ddaeth amser tê, yr oedd Elen wedi parotoi 'wishgon' fawr o gramboithau moethus, a dywedwyd wrth y plant y gallent fwyta faint fyd fynent, heb fwyta bara menyn gyda nhw; oherwydd fod 'nwncwl Abertawe a Chariad yn myn'd i briodi yn yr haf.

Ar ol tê, dywedais nad oeddwn yn dychwelyd yn ôl i Abertawe y noson hono, ond yr aroswn dros y Sul ym. Mhlas Newydd, er nad oeddwn wedi bwriadu gwneyd hyny o'r blaen. Ond dywedodd Cariad wrthyf fod yn rhaid i mi ddychwelyd, ac na wnaethai hi mo'r tro i esgeuluso bywioliaeth er mwyn pleser, ac addawais inau i ddychwelyd os deuai hi i'm hebrwng, gyda Tom y Waginer, yn y càr. Wedi hyny, aeth Cariad a finau— fraich ym mraich—allan i'r ardd, a daeth Gwilym a Benni Bach ar ein hol, ac aethom i'r llwyn arel dra— chefn, a bu Benni yn canu'r gloch a Gwilym yn cy— hoeddi gostegion priodas. Ni welwyd mewn un lle o fyd gwmni mor llawen a ni, ac yr oedd ein crechwen yn gwneyd i'r adar bach oedd yn dechreu cysgu ar ganghenau coed yr ardd i ganu 'twit twit' cysglyd rhwng hun ac effro. A phan ddaeth amser cychwyn, daeth Gwilym a Benni i'n gweled yn esgyn i'r càr, oblegid rhoddodd Elen ganiatad iddynt i aros ar lawr yn hwy nag arfer a phan gychwynasom, Cariad a fi y tu blaen, a Thom y Waginer y tu ol, y geiriau olaf a glywsom oedd, 'Gwt neit, 'nwncwl a 'nanti,' oddiwrth Gwilym a Benni. Daethom i'r stesion yn llawn hwyl, a gwasgais haner coron i law Tom y Waginer,— ond yr oedd Tom, erbyn hyn wedi clywed yr hanes, a derbyniodd yr ail galenig heb geisio gwneyd esgusawd, ond meddai yn ddrygionus,