Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XII.

AR OL LLAWER O DDYDIAU.

Y mae llawer blwyddyn wedi dianc oddiar y digwyddiad diweddaf a gofnodais. Nid yw Cariad bellach yn byw yn y Ty Prydferth gerllaw Llangoediog, oblegid unwyd hi mewn glân briodas yn Salem yr haf canlynol a John Davies, M.D., o Abertawe. Am beth amser buom byw yn yr hen dy yng Nghadog Street, a bu Marged yn gweini arnom hyd nes y ganwyd ein plentyn henaf, merch a alwasom yn 'Cariad,' er mwyn yr hen adgofion. Wedi hyn, ymadawodd Marged â ni, ac y mae hi a 'Tom y Waginer'—Tomos y gweithiwr, fel ei gelwir yn awr yn byw mewn tyddyn ar dir Plas Newydd, a llon'd ty o blant gyda nhw. Y mae i ni erbyn. hyn dri o blant merch a dau fab—ac os gellir credu eu mham, y nhw yw'r plant glanaf a ffelaf yn y wlad. Dywed fod yr henaf o'r bechgyn yn gymhwys yr un peth a Gwilym, ac y mae'r ieuengaf, yn ei ddiniweidrwydd a'i allu breuddwydiol yn tebygu, meddai hi, i Benni Bach. Beth bynag am hyny, y mae'r tri o'r farn nad oes neb yn y byd a ddeil eu cymharu â'u cefnderoedd o Blas Newydd. Hwy yw eu harwyr a'u hesiampl, a'u cynghor hwy a ganlynant ym mhob peth. Nid ydym ninau, chwaith, yn gwrthwynebu y duedd hon, oblegid ni welsom blant yn unman sydd wedi cael eu dwyn i fyny yn well na Gwilym a Benni. Yn hytrach, yr ydym yn gwneyd ein goreu i gryfhau dylanwad y ddau ar y plant, a'n huchelgais a'n gobaith yw y tyf ein plant ninau i fyny yn debyg i'w dau gefnder o'r wlad. Bu llawer yn cynghori Cariad i godi'r plant