Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allwedd a egyr y porth sydd yn arwain i'r wlad hyfryd, lle ceir y Mabinogion a Dafydd ab Gwilym, a hanes, a chyfrinion calon, eu cenedl eu hun.

Fel yr oedd y teulu, a'm gwaith, yn cynyddu, symudasom i dy mwy yn y dre, yr hwn a alwasom yn Fro Dawel. Cynghorodd llu o'n cyfeillion ni i beidio mynychu Ebenezer mwy, ond i daflu ein coelbren, o hyn allan, gyda'r achos Seisnig.

Ond nis gallwn, rywfodd, ymadael a'r hen gapel, lle y dychmygwn ambell waith y gallwn weled unwaith eto yr Hen Ddoctor yn y pwlpud a chlywed ei lais lleddf yn llefaru. Er nad oedd dim hen adgofion fel hyn gan Gariad, teimlai hi yn gryfach ar y pwnc na myfi. Dywedai hi nas gallai addoli ond yn iaith ei mhebyd, ac nas gallai fwynhau hyd yn oed brofiadau'r Salmydd ond yn Gymraeg. Ambell i noson pan y byddem i gyd o gylch y tan, byddai'r wraig yn cael hwyl garw, ys dywed gwyr y Gogledd, wrth ddweyd y drefn ynghylch hyn.

'Dall Cymro ddim addoli ond yn Gymraeg,' meddai, a lliw'r rhosyn yn gwrido ei gruddiau. 'Odi e'n werth. rhoi Ann Griffiths i fyny er mwyn cael Mrs. Alexander? Neu Williams Pantycelyn er mwyn Cardinal Newman? Neu Tomos Lewis, Talyllychau, er mwyn Watts? A yw Parker gymaint yn well na Herber? Neu Doctor Pentecost na Doctor Saunders?'

Ac ni fyddai neb yn gallu eu hateb pan fuasai'r dwrn bach ar lan, a'r llygaid siriol yn goleuo gan frwdfrydedd.

Aros yn Gymreig yr ydym wedi wneyd, gan hyny, ar hyd y blynyddoedd, ac yr ydym yn taer erfyn yr erys ein plant hefyd yn Gymry pur, mewn iaith a moes ac arferion a chrefydd, tra fyddant byw. Prif ogoniant Cymru yw ei Chymreigaeth. Tra yr erys y wlad yn Gymreig ei hiaith a'i hyspryd, y mae gobaith mawr