Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ei dyfodol. Ond nid cynt y collir y Gymraeg, nag y collir gafael hefyd ar y diwylliant sydd yn hynodi ein gwerin. Nid Islwyn yn unig ymhlith ei bobl sydd wedi dal cymdeithas ag angel y dyffryn ac awen yr afon; ond pan gilia'r Gymraeg, lleda yr angel ei adenydd, a'r afon nid edwyn mwy ei hawen. Cyll anian ei llais; try Paradwys yn ddiffaethdir gwyllt, lle ni thyf ond drain a mieri. Y blodau ni fyddant, fel y cana ein beirdd, yn 'ser gloewon y llawr,' ond porfa ych a dafad. Cerdd eos ni fydd ond swn i oglais clust, fel crwth mewn tafarn. Y fwyalchen a'r deryn du, ni fyddant ond lladron yr ardd, ac nis danfonir hwynt yn llatai at Forfydd neu Ddyddgu. Y dydd ni fydd ond amser bwyd a gwaith, a'r nos ni fydd ond amser gor— ffwys. Y bugail a'r gweithiwr, ni chlywant, yn nhrigfanau tawelwch, sibrwd o'r wlad tu draw i'r llen. Diflana prydferthwch a barddoniaeth bywyd; ac ni fydd y Cymro, heb hanes iddo na gobaith, yn ddim. gwell na pheiriant cywrain i ddadblygu cynheddfau materol y wlad.

******

Meddyliais, ar y cyntaf, roddi rhagor o hanes fy neiaint, Gwilym a Benni Bach, ond mae fy ngorchwyion yn cynyddu o hyd, ac y mae fy amser yn brin. Pan gaf egwyl, ac os bydd hyn o ysgrif yn ddyddorol neu yn adeiladol i'm cyfeillion—oblegid ni ddisgwyliaf darllenir hi gan neb arall—rhoddaf, feallai, rywbryd eto, ragor o hanes y ddau. Y maent, erbyn hyn, fel y dywedais, yn yr Ysgol Ramadegol—Gwilym a'i fryd ar fyned i Aberystwyth er graddio ym Mhrifysgol Cymru cyn cystadlu a'r byd yn Rhydychen, a Benni yn paratoi ar gyfer un o ysgolion meddygol y brifddinas. Hyn a ddywedaf am danynt,—na fagwyd yn un cartref yng Nghymru gyfan decach plant, mwy addawol yn yr ysgol, mwy ufudd i'w rhieni, mwy siriol