Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w cydymdeithion, mwy caredig i bawb o'u hamgylch. Y mae iddynt erbyn hyn ddwy chwaer a brawd, a diau genyf eu bod mor ffel a'r ddau henaf. Ond nis gallaf fi deimlo yr un ffordd tuag at eu brodyr a'u chwiorydd ag y gwnaf at y ddau a ddygodd Gariad i'm cartref, a'r rhai a gyhoeddodd ein gostegion priodas yn llwyn arel Plas Newydd. Nid wyf heb gredu weithiau fod Elen a Henri, hefyd, yn meddwl yn wahanol am eu cyntafanedigion, ond mae cariad rhieni at eu plant. yn rhywbeth rhy gyfrin i neb i geisio ei ddiffynio a'i ddosbarthu. Ond gwn fod gan Elen a Henri olwg fawr ar eu mheibion henaf, a chredaf yr erys y ddau yn gysur i'w rhieni ac y byddant yn ogoniant i'w gwlad.

******

Nis gallaf adaw i'm hysgrifbin syrthio o fy llaw heb droi i edrych, am yr ugeinfed waith yn y nos, ar y cymhar bywyd a syrthiodd i fy anheilwng ran y dydd hwnw yin Mhlas Newydd. Beth allaf ddweyd am dani? Teimlaf fod cyfoethogrwydd y Gymraeg yn pallu pan geisiaf ddweyd y filfed ran o'r hyn yr wyf yn deimlo pan edrychaf ar ei hawddgarwch. Gwraig rinweddol meddai'r gwr doeth sydd goron i'w gwr,' ac ni chafodd Lemuel Frenhin well gwraig na myfi. Pan fo blinderon bywyd yn fy nirwasgu, y mae ei sirioldeb a'i chydymdeimlad dihysbydd hi yn fy nghysuro. Pan fo llwyddiant yn gwenu arnaf, y mae hi wrth fy ochr i gydlawenhau a mi. Pan y'm bwrir i'r llawr gan afiechyd, y mae ei llaw dyner yn barod i'w gosod ar fy nhalcen poeth, ac i lyfnhau y gobenydd garw. Pan wnaf anghofio i bwy y dylwn ddiolch am fy myd da, ac yr af i gredu mae fi fy hunan sydd wedi enill y cwbl a ddaeth i'm rhan drwy rym fy mraich a disgleirdeb fy athrylith, y mae llais addfwyn, caruaidd wrth law, yn fy rhybuddio i beidio gadaw i fy enaid syrthio i drwmgwsg. nac i ymffrostio yn y dydd yfory. O na fuasai genyf