Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgrifbin o aur, nas gallwn gerfio ei henw mewn llythyrenau o dân ar bob craig yng Nghymru, fel y gallai cenhedlaethau i ddod ei adnabod a'i garu! Hyn sydd tuhwnt i'm cyrhaedd, ond hyderaf mas anghofiaf tra fyddaf byw yr adduned a wnes flynyddau yn 'ol, i'w chadw rhag pob gelyn a'i hymgeleddu rhag pob tywydd garw. Safle a golud bydol nid oes genyf i'w cynyg iddi, a da genyf feddwl nad yw hi yn prisio'r fath deganau darfodedig. Gwyliaf hi rhag pob storom; amgylchynaf hi a chariad nas gall ond y bedd ei ddiffedd.

Nis gallaf fi dalu ond hyn,
Ei charu tra fyddaf fi byw.






DIWEDD.