mlynedd yn ol), nad anfuddiol fyddai casglu hynny ellid gael o'r gwreichion gwasgaredig a ddisgynnodd oddiar yr hen allorau tanllyd, cyn iddynt lwyr ddiffoddi. Trwy gryn ddyfalwch, llwyddais i gasglu cryn ystôr o honynt. Y mae lluoedd heb fod yn brintiedig erioed, a'r mwyafrif wedi eu sicrhau oddiar gof ugeiniau lawer o hen dduwiolion gororau mynyddig Gwynedd. Hapus dyrfa ! buont yn sugno maeth o'u mêl yn yr anial garw, a hedasant ar eu pwys i'r gwynfyd. "A chanu y maent gân Moses a chân yr Oen."
Archwiliais yn ofalus yr holl gasgliadau emynnau cyrhaeddadwy, a ymddangosodd yng Nghymraeg. gyda'r amcan o geisio cadw y "geiriau colledig." Ni roddais nemawr bennill i mewn a ymddangosodd yn llyfrau Pant y Celyn, 1756 hyd 1762.; casgliadau ei fab, John Wiiliams, 1811 ; "Grawnsypiau Canaan," Robert Jones, Rhoslan. (ail-argraffiad y Bala), 1805; "Caniadau Salem," John Jones, Trefriw, 1823; "Hymnau a Salmau." y Parchn. Richard Williams a Joseph Williams, Lerpwl, 1840; "Y Salmydd Cymreig," y Parch. Roger Edwards a Mr. Ebenezer Thomas (Eben Fardd), 1841 a 1856: " Casgliad o dros ddwy fil o Hymnau," S. R., 1849: a'r lluoedd casgliadau enwadol. Onid yw rhifedi ein holl emynnau yn ddigon o syndod?
Gan fod cymaint o ddefnyddio wedi bod ar y llyfrau bychain hylaw, a gyhoeddwyd yn Llanrwst, Bethesda, y Wyddgrug, &c., at alwad arbennig y Diwygiadau gynt, rhoddais amryw emynnau o honynt i mewn, gan eu bod wedi glynu mwy yng nhgof a serch yr hen wladwyr. Arhosant fel rhyw gynysgaeth gen-