Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GWREICHION Y DIWYGIADAU.
. AR DDECHREU ODFA
Emynnau a lediodd hen bregethwyr a saint o
flaen pregethau, neu ar ddechreu seiadau, &c.
I.
O NA welwn odfa un
Heb y diafol;
A delw hawdagar Mab y dyn
Ar y bobol;
A chael Ysbryd y peth byw
I'r olwynion,
I ddadle o du gogoniant Duw
Ymhob calon.
II
.
O Arglwydd Dduw Jehofah
Tro yma'th wyneb llon,
Ac edrych ar dy bobol
Sydd yma ger dy fron ;
Rho ras i'r bobol ifanc.
A nerth i'r canol oed,
A chymorth i'r hen bobol
I gyrchu at y nôd.
III
Unwaith eto mi anturiaf |