Prawfddarllenwyd y dudalen hon
P'run a ddalia i 'nawr ai peidio, |
IV.
Y mae'r waedd ar hanner nos,
Bron a dyfod,
Ge'st ti d' olchi 'ng ngwaed y groes?—
Wyt ti'n barod ?
Paid a hepian gyda'r plant.
Bydd yn effro,
Cais wir olew yn dy lamp,
Cyn y delo.[1]
V
At ffynnon Jacob lesu a ddaeth,
Ac ar ei daith yn flin,
Ac yno'n fwyn eisteddai i lawr
Fel rhyw ddieithr ddyn;
Daeth yno wraig i dynnu dŵr,
A'i phiser yn ei llaw,
Ac ni feddyliodd yno fod
Duw Jacob pur gerllaw.
VI
Cwch y bywyd sydd yn awr
Ym Moeltryfan.
'N derbyn pechaduriaid mawr
Fel fy hunan;
O gymydogion, iddo dewch
Am y cynta';
Mwya'n byd a ddêl i'r cwch
'Sgafna nofia.
- ↑ Owen. Prisiart, y Waen Fawr, gerllaw Caernarfon.