esiampl o'r gweddiau hoffwn gasglu. O adroddad gohebydd am un o gyfarfodydd Mr. Evan Roberts yn Lerpwly mis diweddaf y daw.
"Dacw wraig yn codi yn y set fawr; ac mewn llais mwyn a threiddgar, yn graddol orchfygu pob gweddïwr arall, ac yn ennill clust a chalon yr holl gynulleidfa. Pe heb weled ei hwyneb, gwybuaswn mewn eiliad mai merch y seraff o Dalysarn ydoedd—yr oedd delw ei ddychymyg beiddgar a fflap ei edyn eryraidd i'w glywed ymhob brawddeg. Yr ydym yn teimlo'n hunain ar ddibyn y byd ysbrydol, meddai, yn ddigon agos i glywed can yr angylion yn y gogoniant, ac yn ddigon agos i glywed gwaedd y colledigion yn y trueni! Ac wrth son am ymdrechion y Diwygiwr ar ran esgeuluswyr,—O! dyma lafur ! Dy lafor Di! Ddoe megis y dechreuodd dy was, ac fe fydd yn darfod yfory. Ond pwy wyr pa bryd y dechreunist Ti? Y mae swn Dy lafur i'w glywed draw yn yr hen arfaethau a'r bwriadau tragwyddol, a dacw fe eithaf ar ben Calfaria!' neu rywbeth cyffelyb, oblegid yr oeddwn wedi rhoi heibio gofnodi ers meityn."
OWEN M. EDWARDS.
- Rhydychen,
- Mai 1, 1905.