Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd y Casglydd.

AR ol i'r tadau Ymneillduo! gynneu y tan ysbrydol, daeth angenrhaid am ganiadau i arllwys mawl i'r "Hwn a'n prynnodd ar y ar y Groes." Gwnaeth. llyfrau hymnau bychain Pant y Celyn fwy o gynhorthwy i Daniel Rowland a Howel Harris, a'u brodyr efengylaidd, na nemawr gyfryngiad, i ennyn yr Adfywiad bendithiol cyntaf. Tra'r oedd tyrfa o gantorion newydd yn "cadw gwyl i'r Arglwydd" yng Nghymru, daeth Robert Jones Rhoslan a "Grawnsypiau Canaan" i'w diwallu.

Yn bur fuan, torrodd "Diwygiad Mawr Beddgelert," gan wneyd grymusderau, a thystiolaethir mai pennill, adnod, gweddi, a phregeth a lanwai fyfyrdodau gwerin oreu ein gwlad yn y cyfamser dedwydd hwnnw. Oherwydd prinder y llyfrau hymnau, gorfyddid i'r hen bregethwyr ledio eu hennynnau bob yn ail linell wrth eu canu. Ond buan y cynhyddodd y gwres a'r moliant, fel y daeth pob enwad yn effro i waith, a dygasant drwy'r wasg gasgliadau o emynnau, hen a newydd. Daeth Diwygiad '59 i "ail—diwnio telynau," nes oedd cymoedd a phentrefi ein gwlad "fel porth y nefoedd, neu fynedfa i ogoniant." Nis gall neb gyfrif yr hymnau,—syml eu gwisg, ond tarawiadol eu syniadau,—a luniwyd ac a ddysgwyd yn ystod blynyddoedd gogoneddus yr hen Ddiwygiadau.

Wrth ystyried fod cymaint o rai campus wedi eu cyfansoddi gan hen werinwyr, anadnabyddus gan mwyaf, tybiais (ers pymtheng