OED OLAF
A'R hwyr yn cau ar y coed, A'r lloer ar lannau'r lli, Ym min yr allt 'r oedd man yr oed I Men a mi. A'r eira'n cau ar y coed, Un hwyr yn gaenen wen,— Y main a'r ŷw oedd man yr oed I mi a Men.