HIRAETH
BREUDDWYD llwyd y lloer Yn llonydd ar y lli, Mor dawel y mordwyem— Mair a mi. Heno, trist ar y traeth Yw'r gwyn o sŵn y gwynt, Yn holi am anwylyd Gerais gynt.