Tudalen:Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog.pdf/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda'r Hen Feirdd.

[Yn ystod hirddydd haf, byddis yn dewis cael seigiau ysgafn, blasus, a chyfnewidiadau aml. Felly, detholaf, yn hollol yn ol fy ffansi,—ychydig friwsion o goginiaeth yr hen feirdd,— allan o'm llyfryn llogell. Y maent wedi cael eu casglu o bryd i bryd, o ran cymyraeth ddifyr, o hen lawysgrifau melynion, o hen almanaciau llwydion, ac o wahanol ffynhonellau eraill.

Hyderaf y caiff rhywun arall fwynhad wrth eu darllen, o dan gysgod derwen yn y waen, ar foncyff pren mawnog yn y mynydd, ar fin y ffrydlif yn y ceunant, neu ar ei gadair esmwyth yn ei barlwr yn y dref. Gwir Gymro a garo gerdd."CARNEDDOG.]

I. Y Gafod Ddrwg yn 1542.

Mil a hanner, llownder llu,—dwy a deugain,―
(Da y gwn ced Iesu,)
Pan fu y Gafawd, ddyddbrawd ddu,
Y drwg amrwst drwy Gymru.
—Pwy?



II. Y Deg Gorchymyn.

Arfer o bump, rhif aur borth,
Ymogel y saith, magl swrth,
A gwna'r deg yn di-warth,
A dos i Nef,—dewis nerth.
—RHYS CAIN.[1]



III. Amddiffyniad, wedi i un haeru fy mod yn eilun-addolwr, ar ol imi ddarlunio "Croes Crist."

Yr anuwiol ffol a ffy,—poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied ef, os gwell hynny,
Llun diawl ymhob lle'n ei dŷ.
—RHYS CAIN.[2]



IV. Arwyddion y Tywydd, oddiwrth liw y lleuad newydd.

Gwylied bawb, bob gwlad y boch,
Y lloer lâs, y llawr a wlych;
Llawer o'r gwynt yw'r lloer goch,
Lloer wen ydyw'r seren sych.
—WM. CYNWAL.[3]



V. Cyngor rhag enllibio.

Ymogelwch, gwyliwch goelio—un chwedl,
Na chodi mawr gyffro;
Profwch oes neb yn prwfio,
Neu llunio bai lle ni bo.
—SION TUDUR.[4]



VI. Cyngor rhag sathru llysiau y ddaear.

Sethrir, dirmygir drem agwedd―llysiau
Lluosog anrhydedd;
Eisieu gwybod, wiwglodd wedd,
Mewn tir hên maint eu rhinwedd.
—SION TUDUR, O WIGFAIR.


Arall.

Rhinweddau llysiau a'u llun,—a'u graddau,
A'u gwreiddiau, a'u sygun,
Pe gwypai, ni roddai yr un
Drwy'r deyrnas ei droed arnyn.
—LEWIS AP EDWARD.[5]



VII. Byw yn uniawn.

Di-falchder arfer yw'r yrfa—uniawn
I ennill y rhedfa;
Difalch fydd pob defnydd da:—
Duw i ry—falch rydd drofa.
—SIMWNT FYCHAN.[6]



VIII. Cais Dduwiolder.

Cais dduwiolder per heb ball,—naws anial,
A synwyr i ddeall;
A thi a gei ni thy' gwall
I'th euraw pobpeth arall.
—GUTO'R GLYN (?)[7]



IX. Brenhinbren y Ganllwyd.

Brenhinbren, brithlen berthlwyd,—a mêsbren,—
Grymusbraff y'th roddwyd;
Purion tw', gwych bren teg wyd—
Trigeinllath tŵr y Ganllwyd.
I'th euraw pobpeth arall.
—SION DAFYDD LAS.[8]



X. Y Sigl Faen Mawr.[9]

Ai hwn yw'r Maen, graen gryn:—llwydwyn,
Rhwng Lledr a Machno?
Fe eill dyn unig ei siglo,
Ni choda'n fil a chwe' dyn fo.
I'th euraw pobpeth arall.
—WM. CYNWAL.


  1. Yn ei flodau tua 1580.
  2. Yr oedd yn fedrus am arlunio.
  3. Yn ei flodau o 1560 hyd 1600.Ymladdwr cywyddol ag Edmwnd Prys.
  4. O Wigfair, ger Llanelwy. Bu farw yn 1602.
  5. Yn ei flodau tua 1568.
  6. Trigiannai yn Llanelidan, sir Ddinbych. Bu farw Ebrill 5ed, 1606.
  7. Yn ei flodau tua 1540.
  8. Bardd teulu i'r Cyrnol Vaughan, o Nannau, ac un parod i yfed cwrw a gwau cynghaneddion ysmala. Yn ei flodau o tua 1650 hyd 1690.
  9. A yw y maen hynod hwn i'w weled yn awr rhwng Pen Machno a Betws y Coed?