Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arwain byddinoedd i'r India; a chan ei fod yntau wedi ei gyhoeddi yn fab Jupiter, yr oedd am ateb i'w enw.

Ar y pryd gorchymynai addoliad gan bawb a nesaent ato, yr hwn ymddyggiad oedd hynod o annymunol gan ei hen gyfeillion, ond nid gan neb yn fwy na Callisthenes y philosophydd, yr hwn oedd yn gâr i Aristotle, hen athraw Alexander Fawr. Arferiad y brenin, yn ei wleddoedd, wedi iddo yfed ei hunan, fyddai estyn y cwpan i un o'i gyfeillion. Y cyfaill hwnw, wedi iddo dderbyn y cwpan, yn ddiatreg a godai ar ei draed, a chan droi at y man lle y safai y duwiau teuluol, i yfed, efe a addolai, ac yna a gusanai Alexander. Wedi hyny eisteddai wrth y bwrdd. Ar un adeg yr oedd yr holl wahoddedigion wedi gwneyd hyn, oddigerth Callisthenes. Pan ddaeth ei dro ef, efe a yfodd, ac yna a ddynesodd i gusanu y brenin. Ond un o'r enw Demetrius a waeddodd allan, "Na dderbyn ei gusan, O frenin, canys efe yn unig ni'th addolodd di." Felly Alexander a'i gwrthododd; a Callisthenes a ddywedodd yn uchel, "Byddaf yn myned adref yn dylotach o un gusan, dyna y cwbl." Nis gallodd Alexander oddef hyfdra ei geryddwr am ei ffolineb, am hyny efe a'i rhoddodd i farwolaeth, yr hon weithred sydd yn pwyso yn dra thrwm ar ei enw da.

Ar ei gychwyniad i'r India, yr oedd ei fyddin yn chwe' ugain mil, ond efe a ganfu fod ei filwyr wedi eu gorlwytho gan yr ysglyfaeth a gymerasent fel yr oeddynt yn anghyfaddas i ymdeithio. Gan hyny, yn gynar yn y bore ar ba un yr oeddynt i gychwyn, wedi i'r cerbydau gael eu casglu yn nghyd, efe a osododd dân yn ei glud (baggage) ei hun ac eiddo ei gyfeillion; ac yna rhoddodd allan orchymyn ar fod i bawb ereill gael ymddwyn atynt yn yr un modd. Ymddangosai fod y penderfyniad yn anhaws dyfod iddo nag oedd gweithredu yn ei ol. Ychydig a deimlent yn anfoddlawn, ond derbyniwyd y gorchymyn gan niferi mawrion gyda banllefau o lawenydd. Cyfranasant yn rhwydd o'u clud i'r rhai oedd yn ddiffygiol, a llosgasant y gweddill ag oedd yn afreidiol. Parodd hyn galondid mawr i Alexander, ac enynodd ynddo benderfyniad goregnïol i fyned yn mlaen.

Wedi ymryddhau fel hyn, efe a gychwynodd i'w daith, yn nghyda'i fyddin, gan ddarostwng y gwledydd oedd yn ei ffordd, sef y parthau oedd tu yma i afon Indus. Yn mhlith y rhai a orchfygodd efe yr oedd cenedl o'r enw Assacaniaid, brenines y rhai, o'r enw Clophis, a ryddhaodd ei gwlad drwy ymddarostwng i drythyllwch gydag Alexander, yr hyn a'i gwnaeth mor warthus a ffiaidd yn ngolwg ei chenedl fel na dderbyniodd well enw ganddynt o hyny allan na'r "Butain freninol." Ganwyd iddi fab mewn canlyniad i'r ymgyfathrach hwn, a galwyd ef ar enw ei dad, Alexander, yr hwn, yn nghyda'i hiliogaeth, a lywodraethasant am oesoedd lawer wedi hyny ar y wlad hono.

Wedi sefydlu pethau y tu allan i'r afon Indus, croesodd yr afon ar bont o gychod. Wedi myned drosodd efe a aeth rhagddo tua thiriogaethau y brenin Porus, a'r canlyniad o hyny a fu

BRWYDR WAEDLYD RHYNGDDO A PORUS,

yr hwn, er ei fod yn dywysog gwrol a galluog, a orchfygwyd, wedi ymladd o hono frwydr anarferol o ffyrnig a phenderfynol, ac efe ei hunan a gymerwyd yn garcharor. Wedi ei ddwyn o flaen Alexander, y penaeth hwnw a ofynodd iddo, "Pa fodd y dymunet i mi ymddwyn tuag atat?" Yntau a atebodd, "Fel at frenin." "Onid oes rhywbeth arall a ewyllysiet?" ebai Alexander. "Nac oes," atebai Porus, "y mae y cwbl yn gynwysedig yn y gair 'brenin."" Yna Alexander, wedi sylwi ar weddeidd-dra ei ymddygiad yn ei adfyd, a'i hadferodd i'w freniniaeth, ac a ychwanegodd at ei lywodraeth yr holl wlad oedd i'r dwyrain iddi, yn cynwys pymtheg o genedloedd, pum' mil o ddinas-