Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd mawrion, a phentrefydd mewn cyfartaledd. Yn awr cododd ddeuddeg o allorau mawrion yn goffadwriaeth o'i fod yno, a throes yn ol i osod sylfaeni dinas ar y fan y bu yn ymladd a Phorus, ac a'i galwodd Nicea; a chododd ddinas arall yn agos iddi gan ei galw Bucephalia, yn goffadwriaeth am ei geffyl Bucephalus a fu farw yno. Dywed rhai mai ei glwyfo a gafodd yn y frwydr â Porus, ac iddo farw mewn canlyniad; ond dywed Onesicritus mai marw o henaint a lludded a wnaeth, oblegyd yr oedd yn ddeng mlwydd ar hugain oed.

Oddiyno bwriadai gyrhaedd hyd afon Ganges, a chyrhaeddodd mor belled a'r afon Hydaspes, ond ni ddylynai ei filwyr ef yn hwy yn y fath daith ynfyd a gwallgofus, am eu bod wedi clywed fod breninoedd y Gandariaid a'r Præsiaid, gyda byddin o ddau can' mil o wŷr traed, a phedwar ugain mil o wŷr meirch, wyth mil o gerbydau heiyrn, a chwe' mil o elephantiaid wedi eu dysgyblu at ryfel, yn eu haros yr ochr draw i'r Ganges, a bod yr afon yn ddeuddeg gwrhyd ar hugain o led, ac yn ddwfn aruthrol. Wrth groesi yr Indus y tro cyntaf rhoddasai orchymyn i'w holl longau, y rhai oedd dros 2000 o nifer, dan lywyddiaeth Nearchus i ddyfod at yr afon Hydaspes, ac wedi roddi ei fyddin ynddynt hwyliasant i Acesinis, ac oddi yno i'r Indus, gan fwriadu buddugoliaethu cyn belled a'r môr, trwy y parthau deheuol o India, ac oddiyno i Babilon. Llwyddodd yn ei holl amcanion yn erbyn cenedloedd lawer; ond bu agos iddo golli ei fywyd wrth gymeryd un o ddinasoedd y Maliaid; canys wedi iddo ddringo'r mur, neidiodd yn rhyfygus i lawr i'r ddinas, lle cafodd ei glwyfo yn drwm cyn i neb allu ei gynorthwyo. Hwyliodd oddi yno i lawr yr Indus hyd y môr, gan orchfygu y gwledydd oddeutu yr afon.

YN MYNED TUA BABILON.

Wedi hyny gorchymynodd i'r llynges hwylio drwy lyngclyn Persia at geg yr Euphrates, ac oddiyno i Babilon; a chychwynodd yntau gyda'i fyddin ar hyd y tir i'w chyfarfod. Aeth drwy daleithiau deheuol Persia, lle yr oedd anial-leoedd tywodog, ac yn y cyfryw fanau collodd ran fawr o'i fyddinoedd, drwy newyn, a syched, a gwres mawr, fel nad oedd y bedwaredd ran o honynt pan ddaethant i Babilon. Yn Carmania, ar y daith hon ymroddodd ef a'i filwyr i feddwdod, gan orfoleddu am ei fuddugoliaethau yn yr India, a'i debygoliaeth yn hyny i'r duw Bacchus,r hwn a ddychwelodd mewn cyffelyb fodd o'r India.

Tra yn myned trwy Persia, ar y daith hon, efe a gafodd fedd Cyrus wedi cae tori i mewn iddo, a pharodd i'r person a gyflawnasai y fath gysegr-yspeiliad anfad gael ei roddi i farwolaeth, er ei fod yn enedigol o Pella. Wedi darllen y beddargraff, yr hwn ydoedd yn iaith Persia, gorchymynodd iddo gael ei gerfio hefyd yn yr iaith Roeg. Fel y canlyn yr oedd:—"O ddyn! pwy bynag wyt, ac o ba le bynag yr wyt yn dyfod (canys yr wyf yn gwybod y deui,) myfi yw Cyrus, sylfaenydd ymerodraeth Persia, na warafun i mi yr ychydig bridd sydd yn gorchuddio fy nghorph." Dywedir fod Alexander wedi teimlo yn ddwys wrth ddarllen y geiriau, oblegyd dangosent iddo ansicrwydd a chyfnewidioldeb pobpeth dan haul, yn nghyda darfodedigaeth a gwagedd pob anrhydedd a gogoniant daearol.

YN PRIODI MERCH HYNAF DARIUS.

Wedi cyrhaedd i Susa, efe a briododd ei gyfeillion â boneddigesau Persiaidd, gan roddi esiampl iddynt ei hunan trwy ymbriodi â Statira, merch hynaf Darius, ac yna rhanodd wyryfon o'r graddau uchaf yn mhlith ei brif swyddogion. Priododd Hephestion, ei ben cyfaill, y ferch ieuengaf; a phenaethiaid ereill a ymbriodasant âg ugeiniau o ferched pendefigion Persia, yr hyn a gymerodd le trwy ddymuniad Alexander, canys ei ddyben oedd gwneuthur y Groegiaid a'r Persiaid yn un genedl dan ei lywodraeth. Talodd Alexander waddol y pen-