Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES ALEXANDER FAWR

ALEXANDER, yr hwn a elwir ALEXANDER FAWR, ydoedd fab ac olynydd i Philip, brenin Macedonia. Ganwyd ef ar y 6ed o fis Gorphenaf, yn y flwyddyn 355 cyn geni Crist, yr un dydd, meddir, ag y llosgwyd teml fawr Diana yn Ephesus. Ar adeg ei enedigaeth yr oedd ei dad newydd gymeryd dinas Potidea, a derbyniodd dri o newyddion pwysig ar yr un diwrnod; yn gyntaf, fod ei gadfridog Parmenio wedi enill buddugoliaeth fawr ar yr Illyriaid; yn ail, fod ei redegfarch wedi enill yn y campau Olympaidd; ac yn drydydd, fod ei wraig Olympias wedi cael ei gwely ar Alexander.

EI DDYDDIAU BOREUAF.

Dywedir fod Alexander, pan yn fachgen, o duedd tra chymedrol; ac er ei fod yn fywiog, neu yn hytrach yn derfysglyd mewn ymarferion ereill, nid oedd yn hawdd ei gyffroi at bleserau a moethau corphorol; ac os ymwnelai â hwy o gwbl, byddai hyny gyda'r cymedroldeb mwyaf. Ond yr oedd rhywbeth yn aruchel a mawreddog yn ei uchelgais, yn mhell uwchlaw ei flynyddoedd. Nid pob math o anrhydedd a geisiai efe, ac nid yn mhob cyfeiriad ychwaith, fel ei dad Philip, yr hwn oedd mor falch o'i hyawdledd ag y gallasai unrhyw athronydd neu areithiwr fod, a bu mor ynfyd a chofnodi ei orchestion yn y campau Olympaidd ar ei fathodynau arian. Alexander, ar y llaw arall, pan cfynwyd iddo gan rai o'r bobl a fyddai iddo ymgystadlu yn y rhedegfa Olympaidd, a atebodd (er ei fod yn hyned o gyflym ar ei droed,) "Mi a ymgeisiwn pe cawn freninoedd i gydymgais â mi."

Ar un tro daeth negeseuwyr o Persia i lys Philip, pan oedd efe yn absenol ar hynt filwrol, a derbyniwyd hwy gan Alexander, y pryd hyny yn fachgen, yn ei le, a mawr synwyd hwy gan ei ddoethineb a'i arabedd. Ni ofynodd iddynt gwestiynau plentynaidd a dibwys, ond ynghylch y pellder i'r fan a'r fan, ac yn nghylch y tramwyfeydd trwy daleithiau uchaf Asia; dymunai gael gwybod nodwedd eu brenin, yn mha ddull yr ymddygai at ei elynion, ac yn mha beth yr oedd nerth a gallu Persia yn gynwysedig. Tarawyd y cenadon â syndod, ac edrychent ar y mab fel yn tra-rhagori ar y tad mewn athrylith a doethineb.

Pa bryd bynag y dygid adref y newydd fod Philip wedi cymeryd rhyw ddinas neu amddiffynfa gref, neu wedi enill rhyw frwydr fawr, yn lle ymddangos yn falch am hyny, dywediad cyffredin Alexander wrth ei gyfeillion fyddai, "Bydd i'm tad fyned yn mlaen fel hyn gan orchfygu, fel na bydd dim neillduol i mi a chwithau i'w wneyd ar ei ol ef." Gan nad ymgeisiai am na