Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw yn alluog i symud o un bwrdd i'r llall heb syrthio." Yr oedd Philip ar y pryd yn parotoi ei fyddinoedd i fyned yn erbyn y Persiaid. Wedi yr ymrafael yma â'i dad, efe a gymerodd ei fam Olympias gydag ef, ac a'i sefydodd yn Epirus; tra y cymerodd efe ei hun noddfa yn Illyricum.

Yn fuan ar ol hyn, dyn ieuangc o'r enw Pausanius, yr hwn a ddywedai iddo gael cam gan Attalus a Cleopatra, a apeliodd at y brenin am gyfiawnder, yr hyn a wrthodwyd iddo. Y canlyniad fu iddo ladd Philip.

EI DDYRCHAFIAD I'R ORSEDD.

Wedi marw Philip dewiswyd ei fab Alexander (ac efe yn 20 mlwydd oed,) yn ben tywysog y Groegiaid i ddwyn y rhyfel yn mlaen yn erbyn y Persiaid; yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn gyntaf i Darius, a'r flwyddyn cyn geni Crist 335. Gwedi darostwng o hono dan ei awdurdod ei lywodraeth gartrefol, croesodd yr Hellespont, sef cyfyngfor rhwng Ewrop ac Asia leiaf. Nid oedd ei fyddin ond deng mil ar hugain o wŷr traed, a phum' mil o wŷr meirch; er hyny goresgynodd holl ymerodraeth Persia, a rhan o'r India. Nid oedd ychwaith yn ei drysorfa pan gychwynodd ond deg talent a thriugain, sef oddeutu 14,4377. 10s. o'n harian ni. Eto gan ei fod ar orchwyl drwy drefniad yr Hollalluog (er na wyddai hyny,) ni bu arno eisiau dim, ac a lwyddodd yn mhob peth ond adferu Babilon, yr hyn nis gallai am ei bod wedi ei diofrydu i ddinystr. Yn mhen ychydig ar ol croesi yr Hellespont ymladdodd y frwydr gyntaf â'r Persiaid wrth afon Granicus, yn nhalaeth Mysia, yn Asia leiaf; ac a enillodd fuddugoliaeth fawr, er fod y Persiaid yn bum' waith yn fwy eu nifer na'r eiddo Alexander. Yr oedd Darius, cyn dechreu y frwydr hon, mor ddiystyr o Alexander fel y gorchymynodd ei ddal a'i guro â gwiail, ac wedi hyny ei ddwyn ger ei fron; ond buan y cyfnewidiodd ei feddwl am dano. Ffrwyth y fuddugoliaeth hon oedd cael meddiant o Sardis, lle yr oedd holl drysorau Darius; ac ymostyngiad rhan fawr o Asia leiaf, yr hon a orphenodd ei darostwng yn fuan wedi hyny. Yn y cyfamser yr oedd Darius yn ymbarotoi i amddiffyn ei deyrnas. Memon, ei ben-cadben, a'i cynghorodd ef i ddwyn y ryfel i Macedonia, i'r dyben i alw Alexander yn ol i amddiffyn ei wlad; gwelodd Darius resymoldeb y cynghor, ac ymddiriedwyd i Memon am y cyflawniad o hono; ac nid allai wneuthur gwell dewisiad, canys Memon oedd y cadben goreu, a'r doethaf oedd o ochr Darius. Pe buasid yn cymeryd ei gynghor yn mrwydr Granicus, ni chawsent y fath aflwydd; canys ei gynghor oedd atal ymladd y frwydr y pryd hyny, ond cilio yn ol ac anrheithio'r wlad o flaen Alexander fel y byddai yn rhaid iddo gilio yn ol o eisiau cynaliaeth: ond y cadbeniaid ereill ni wrandawsant arno, ac o ganlyniad arweiniwyd dymchweliad i freniniaeth Persia. Er hyny ni adawodd Memon achos Darius, ond casglodd weddillion byddin y Persiaid ar ol y frwydr uchod, gan benderfynu, wedi cyfarfod o hono â llynges Persia, hwylio i dir Groeg a Macedonia, gan arfaethu gwneuthnr eisteddfa y rhyfel yno; ond bu farw Memon wrth warchae ar Mitylene, o ganlyniad digalonodd Darius yn yr amcanion hyny, o herwydd nad oedd ganddo un cadben o'i gyffelyb y gallai ymddibynu arno i'r cyfryw anturiaeth. Nid oedd gan Darius bellach i ymddiried ynddo ond ei fyddinoedd dwyreiniol, y rhai a gasglodd i Babilon, yn chwe' chan' mil, ac a'u harweiniodd i gyfarfod y gelyn. Pan glybu Alexander hyny prysurodd i'w erbyn, gan gymeryd meddiant o'r bylchau sydd yn arwain o Cilicia i Syria, gan arfaethu ymladd yno. Nid oedd gan Alexander ond deng mil ar hugain o wŷr, ac nid ellid arwain ychwaneg mewn trefn brwydr yno, o herwydd cyfyngder y bylchau; ond nid oedd le i'r ugeinfed ran o fyddin y Persiaid. Gwelodd rhai o'r Groegiaid oedd yn myddin Darius yr anghyfleustra i ymladd mewn lle mor gyfyng: gan hyny cynghorwyd i dynu'r fyddin i wastadedd Mesopotamia, lle y gallai yr holl fyddin gymeryd eu rhan