Tudalen:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf/33

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YN MHLWYF FFESTINIOG.

23

Weinidog. Arbedodd draul iddi pan oedd y ddyled, o herwydd caledi yr amser hyny, yn pwyso yn drwm arni.

Wedi eu hymadawiad hwy, teimlodd fod yn rhaid iddi wrth weinidog eto. ac yn 1843 gwahoddodd fyfyriwr yn Ngholeg Aberhonddu i ddyfod i'w bugeilio, Robert Fairclough, brodor o Landrillo yn Meirion. Yr oedd yn aelod or Eglwys yno, wedi ei dderbyn gan y Parch. Michael Jones, Llanuwchllyn, Wedi bod yn pregethu am rai blynyddoedd (ac, ar adegau, yn yr ysgol) derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu ac yno y bu am bedair blynedn, pan y cafodd ac y cydsyniodd à galwad Eglwys Bethania. Urddwyd ef Mai 3 a 4, 1843. Cymerwyd rhan yn y gwasanaath gan y Parchn. D. Morgan, Llanfyllin; E. Davies, Trawsfynydd; Arthur Jones, Bangor; Michael Jones, Bala; Cadwaladr Jones, Dolgellau; W. Roberts, Penybontfawr; J. Griffith, Rhydywernen; J. H. Hughes, Llangollen; Samuel Roberts, Llanbryn- mair; ac S. Jones, Maentwrog. Bu yn weinidog Bethania am tua phedair blynedd, yn ddiwyd a llafurus. Ymroddodd i gasglu arian i dalur ddyled, gwaith yr oedd ganddo ddawn neillduol i'w wneud. Nid oedd amheuaeth yn meddwl neb ynghylch ei gywirdeb a'i dduwioldeb, ond caed llawer prawf o'i ddiffyg doethineb ac o'i gyndynrwydd. Achosodd hyny deimladau anhyfryd rhyngddo ef a'r Eglwys ar adegau, a'r hyn sydd yn rhyfedd yw mai ynglyn a'r gwaith yr oedd yn fwyaf medrus a llwyddianuus i'w wneud y cododd rhynddo a'r bobl gamddealltwriaeth blin. Er y cwbl, yr oedd pawb yn argyhoeddedig o gywirdeb llawn ei amcanion ac o'i sel dros a'i ffyddlondeb i'r hyn a gredai ef oedd yn iawn. Enynai ei sel dros ddirwest, a bu ef a William Hughes, Llanrwst, yr hwn oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn dadleu yn gyhoeddus. Dygid y ddadl ymlaen yn ol rheolau manwl y cytunasid arnynt. Mr. Fairclough a orfu, a rhoddodd ei wrthwynebydd y ddadl i fyny wedi ei orchfygu