Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/3

Gwirwyd y dudalen hon

CYSGOD BUONAPARTE AR FAES WATERLOO.[1]


HANES BRWYDR WATERLOO.

WATERLOO, ar amryw ystyriaethau, oedd y frwydr bwysicaf i Ewrop, ac yn neillduol i Loegr, o'r lluaws brwydrau y bu iddi ran ynddynt erioed. Nid yn unig hi a fuddugoliaethodd, ond bu i'r frwydr roddi terfyn ar y tywallt gwaed echrydus a gymerasai le yn ystod yr ugain mlynedd cyn hyny, a llwyr ddarostwng y gormeswr oedd wedi bod cyhyd yn marchogaeth dynolryw er porthi ei chwant a'i uchelgais anniwall ei hun.

Napoleon Bonaparte, ymerawdwr Ffraingc, wedi yr holl fuddugoliaethau rhyfeddol digyffelyb a gafodd, nes darostwng y rhan fwyaf o wledydd Ewrop dan ei draed, y diwedd ydoedd, ei alltudiaeth i ynys Elba. Ond nid yn hir y bu yno, heb fod yn

  1. Yn y darlun uchod, ond chwilio yn fanwl, ceir gweled llun Buonaparte ar faes y frwydr, yn mhlith canghenau y coed. Na roddwch i fyny nes dyfod o hyd iddo.