Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/4

Gwirwyd y dudalen hon

alluog i drefnu moddion i ddychwelyd i Ffraingc, er esgyn yr orsedd oddi ar yr hon y gwthid ef, ychydig fisoedd yn ol, trwy ymdrechiadau cydunol y lluoedd cynghreiriol. Efe a laniai yn Elba y 5ed o Fai, 1814, ac a'i gadawai y 27ain o Chwefror, y flwyddyn ganlynol (1815). Ac ar y cyntaf o Fawrth efe a diriai yn Ffraingc, yn yr un a'r unrhyw lanerch o'r hon yr hwyliasai ddeng mis yn ol. Yr oedd yn ei ganlyn ychydig filwyr, o wyr traed a meirch. Yn ddioed ar ol iddynt oll ddyfod i dir, hwyliasant eu ffordd tua'r brif ddinas. Y mae yn ddiameu bod cyfathrach dirgelaidd yn cael ei ddwyn yn mlaen rhwng Bonaparte, tra yn Elba, a rhai o'r gwŷr mwyaf yn y wladwriaeth a'r fyddin tros holl derfynau Ffraingc; ac yr oedd hyn, mewn mesur mawr, wedi rhwyddhau ei ffordd. Er nad oedd gydag ef pan y glaniodd ond megys dyrnaid fechan o filwyr, yr oedd yn gwbl hyderus y byddai iddo, ar ei daith trwy y wlad, enill digon o bleidwyr, a throi yr holl ryfelwyr o'i du. A felly y dygwyddodd. Ceid y milwyr yn mhob man, ar yr olwg cyntaf ar eu hen flaenor, yn tori allan mewn bonllefau anwydaidd, "Byw fyddo yr Ymerawdwr!" a rhedent am y cyntaf i ymuno a'i fyddin; ac nid meithion oedd y milldiroedd a deithiasai, nad oedd ei faner yn chwyfio dros bigion rhyfelwyr Ffrainge. Ac yn ystod ei daith trwy y wlad, o Cannes, y fan lle y laniodd, i Paris, yr oedd ei fyddin yn chwanegu mewn grym a rhifedi, yn debyg i eira ar ei dreigliad, fel mai ofer oedd i'r brenin Louis a'i bleidwyr feddwl eu gwrth- wynebu, nac atal y gormesdeyrn i ddyfod i mewn i'r brifddinas. Mewn braw a byrbwylldra y gorfu ar Louis ddiangc oddi ar yr orsedd, yr hon na chawaai ond prin Amser i'w chynesu ar ol ei esgyniad; ac ar yr 20fed o Fawrth daeth Buonaparte i mewn, ac esgynedd yr unrhyw orsedd, wedi absenoldeb o ychydig fisoedd.

YR AMRYWIOL FYDDINOEDD.

Nid cynt y daeth i glustiau amrywiol Unbenau Ewrop y newydd o'i ffoadigaeth. a'i esgyniad yr ail waith i orsedd y Bourboniaid, nag y penderfynasant o un fryd wneuthur pob parotoad tuag at atal ei rwysg, a'i ddwyn drachefn dan iau darostyngiad. O'r holl wledydd, yn eu darpariadau milwraidd i wrthwynebu y gormesydd. nid oedd neb yn fwy blaenllaw na Phrydain Fawr. Yn mhen ychydig o fisoedd yr oedd ganddi fyddin luosog yn barod i droi i'r maes, yr hon a ymddiriedwyd dan ofal yr anfarwol Wellington. Yr hen wron Prwssiaidd hefyd, yr enwog Blucher, a ymdrechodd, trwy nerth egni pob gewyn, gasglu ei hen fyddin yn nghyd, er cael mesur cledd unwaith yn rhagor gyda'r hwn, o bawb dan haul y nefoedd, a gashai yn benaf. Byddinoedd y ddwy wlad hyn, sef Prydain a Phrwssia, oeddynt y rhai cyntaf mewn arfau. Buan y cafodd Bonaparte le i gasglu na oddefid iddo, mewn tangnefodd, wisgo y goron, yr hon, mor ddiweddar, a dreisiasai oddi ar ben Louis.

Gwelai yn mharotoadau egniol a helaeth y Cynghreirwyr bod torch dèn i dynu amdani, ac nad oedd namyn grym ei gledd a'i galluogai i barhau yn ben coronawg. Gan hyny nid rhyfedd ei ymdrechiadau llwyddianus yn crynhoi milwyr, ac yn darparu holl angenrheidiau rhyfelgar. Yn mhen ychydig o amser yr oedd ganddo fyddin dra lluosog, yr hon oedd mor ragorol o ran dewrder, dysgyblaeth, a diofrydiad i'w blaenor, ag un fyddin erioed a wisgodd arfau. Yr oedd yn gynwysedig, gan mwyaf, o hen filwyr profiadol, y rhai oedd wedi bod yn gweini dano trwy ystod amrywiol ryfel- dymhorau, ac fel wedi ymgynefino â gwaed a chyflafan. Blaenorid y rhai hyn hefyd gan eu hen gadfridogion, y rhai oeddynt ryfelwyr o'u mebyd, ac fel hen ddwylaw, yn troi at yr unig waith yn yr hwn yr ymddangosent yn eu helfen, ac a'r hwn yn unig y profasent eu hunain yn gyfarwydd. Heblaw hyn oll, yr oedd y fyddin hon wedi ei harfogi yn y modd mwyaf effeithiol; y meirch goreu—mewn gair, yr oedd pob rhan a dosparth wedi eu cyflenwi â phob angenrheidiau, yn y modd mwyaf perffaith; ac ni ddanfonodd Ffraingce erioed yn mlodau ei dyddiau, ragorach byddin i'r maes. Troes allan ei lluosocach, ond erioed ni throes allan ei gwrolach. A phan chwanegom ei bod i gael ei llywio gan un o'r cadfridogion enwocaf yn y byd, yr oedd yn amhosibl i'w wrthwynebwyr beidio a chrynu wrth ystyried y canlyniadau. I wrthsefyll y fyddin hon, penderfynodd y Cynghreirwyr y byddai i'w lluoedd cyfunol gyfarfod â'u gilydd yn yr Iseldiroedd (Netherlands). Fel y crybwyllwyd eisoes, byddinoedd Prydain a Phrwssia oedd y rhai cyntaf i ymgynull, yn cael eu blaenori gan eu henwog Faeslywyddion, Wellington a Blucher. Gwersyllai y Duc Wellington yn Brussels, prif ddinas yr Iseldiroedd; a gwersyllai Blucher yn y pentrefi sydd ar hyd lan yr afonydd Sambre a Mense, sef Charleroi, Namur, Givet, a Liege. Yr oedd y ddwy fyddin, sef Prydain a Phrwssia, o fewn oddeutu 35 milltir i'w gilydd, ac wedi eu trefnu yn y fath fodd ag i fod yn abl i gydweithredu cyn gynted ag y deuai taro ar y naill neu y llall. Yr oedd y gweddill o'r Cynghreirwyr heb ymuno â hwynt, a bychan