Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/7

Gwirwyd y dudalen hon

fyddin. O'r tu arall, pe syrthiassi i ddwylaw y gelynion, buasai y Prydeiniaid yn yn cael eu caethiwo i'r llechweddi, a'u hysgogiadau yn cael eu cyfyngu i lawer llai o gwmpas. Rhoddasai fantais i Buonaparte i blanu ei fagnelau yno, ac anrheithio ein byddin, a'i maeddu, drwy saethu ar hyd y gadres. Rhoddwyd amddiffyniad y lle hwn i ofal dosbarth o'r Gosgorddion; a La Haye Sainte, yr hwn oedd ar gyfer canolbwynt y fyddin, ac oedd yn cynwys tŷ annedd, ac ychydig dai allan, a ymddiriedwyd ir Hanoveriaid. Y tu ol i'r clawdd, ar hyd y ffordd a grybwyllwyd, yr hwn sydd yn rhedeg o La Haye Sainte i La Haye, y trefnid dosparth ein cydwladwr Syr Thomas Picton. Dysgwylid mawr daro ar y lle hwn, oherwydd mai yma yr edrychid am fyddin Blucher i ddyfod i gyduno a'r Prydeiniaid. Nid oedd dim yn hynod yn sefyllfa Ffrangcod, namyn mai llechwedd oedd, lled debyg i'r ochr ar yr hon y safai y fyddin wrthwynebol. Yr oedd y dyffryn rhyngddynt yn hollol agored, heb ei ranu yn gaeau, na'i ddosbarthu â chloddiau, ac mewn rhai manau yn gulach na'i gilydd. Nid yw yn gwbl wastad, ond y mae ar hyd—ddo amrywiol bongciau a phantiau. Ar y dydd nodedig hwn yr oedd yn cael ei orchuddio ag yd, bron yn barod i'r cryman, ac yn tyfu can uched ag ysgwyddau yr ymrafaelwyr, Yr oedd dyfodiad y Prydeiniaid i'r lle yn gynarol y dydd o'r blaen, sef yr 17eg, yn fantais fawr iddynt. Cafodd y gwyr amser i orphwyso, i lanhau ei harfau, ac i'w cynysgaethu eu hunain â phob anghenrheidian anhebgorol. Cafodd y Duc Wellington hefyd amser i drefnu ei fyddin, i gadarnhau pob lle yn y modd goreu. Yn hyn cynorthwyid ef yn fawr gan ddau beiriannwr enwog, y rhai oeddynt hynod o gyfarwydd yn y gelfyddyd o drefnu a hwylio y magnelau. Dywedir fod y Duc Wellington wedi gorchymyn i ddarlun o'r fan gael ei dynu, pan ymwelodd a'r lle dro yn ol, fel y soniwyd, ac iddo alw am hwnw yn awr, er ei gynorthwyo i drefnu ei barotoadau amddiffynol. Wedi gorphen y cyfan, efe a neillduodd i bentref Waterloo, yn nghydag amryw o'r prif gadfridogion, lle y lletyodd am y noson, Gorphwysai y milwyr yn y lle, a'u pwys ar eu harfau. Ac yr oedd lluoedd Ffraingc yn dyfod i fyny ar hyd y nos, i fod ar y bryn ger llaw iddynt. Yr oedd y tywydd yn hynod o dymhestlog drwy y nos, yn goleuo mellt ac yn taranu yn y fath fodd na chanfu ein milwyr na'u blaenoriaid erioed ei gyfryw. Yr oedd y gwlaw yn ymdywallt yn genllifoedd, a hwythau heb unrhyw gysgod. Yr oedd y taranau a'r mellt fel pe buasent yn ymryson yn eu ffyrnigrwydd a'r hyn oedd i gymeryd lle dranoeth.

Cynwysai byddin Prydain mor agos ag y gellir barnu yn nghylch 82,000, ac a wneid i fyny fel canlyn:—Prydeiniaid, 38,000;—Lleng Ellmynaidd, 8,000;—Hanoveriaid, 14,000;—Lluoedd y Duc Brunswick a'r Belgiaid, 22,000.—0 wŷr traed, 62,000— Gwŷr meirch, 15,000;—Magnelwyr a pheiriannwyr, 5,000. Cynwysai byddin Ffraingo yn nghylch 90,000, Lletyai Buonaparte mewn treflan fechan a elwir Planchenoit Noswyl arbenig oedd hon i'r milwyr a'u cadfridogion o bob ochr: a chyda dysgwyliad pryderus am gyflafan erchyll, yr hon y byddai iddi y canlyniadau mwyaf pwysig, yr arosasant am wawriad y 18fed o Fehefin.

GWAWRIAD BORE Y FRWYDR.

Wedi noson o wyliadwriaeth a phryder, o'r diwedd fo wawriodd bore y 18fed, ac erbyn hyn yr oedd y ddwy fyddin elynol yn ngolwg eu gilydd. Yr oedd Buonaparte wedi mawr ofni y byddai i'r Prydeiniaid omedd sefyll brwydr âg ef, ac na arosent yn eu henciliad nes cyrhaeddyd eu llongau: ond pan welodd hwynt wedi eu trefnu yn barod i'w wrthsefyll, ar lechwedd gyferbyn âg ef, dywedir iddo dori allan mewn mawrffrost a gorfoledd, "Ah! dyma fi wedi cael y Saeson i'm gafael o'r diwedd." Mor awyddus oedd ef i ddechreu yr ymgyrch, ac mor sicr oedd o fod yn fuddugoliaethus, fel yr oedd yn hyrddio yr ol—fyddinoedd i brysuro yn mlaen, ac i gymeryd eu sefyllfaoedd priodol. Ni ddarfu iddo unwaith gymaint a breuddwydio fod yn ddichonadwy iddo gael ei orchfygu, o ba herwydd ni wnaeth unrhyw ddarpariaeth ar gyfer enciliad. Gallwn fod yn sicr mai nid llawer o ddydd a allyngai y Duc Wellington i fyned heibio heb ei ddefnyddio i ymbarotoi yn effeithiol erbyn yr ymosodiad ofnadwy ag oedd ar gael ei wneuthur arno. Yr oedd efe gyda'r fyddin ar lasiad y dydd; ac oddeutu pedwar o'r gloch y bore anfonodd geuadwr at yr hen Flucher, yr hwn, yn nghyda'i fyddin, oedd yn nhref Wavre, oddeutu 15 milldir o faes Waterloo. Yr oedd y genad i hysbysu i'r hen wron fod y Duc Wellington wedi cymeryd ei sefyllfa ar gyfer Waterloo, a'i fod wedi penderfynu yno wrthsefyll y Ffrangood; ei fod yn dymuno arno ef (Blucher) anfon dau ddosparth o'i fyddin er ei gyfnerthu. Ond yr hen wron, yn hytrach nag anfon dau ddosparth, a atebai, y byddai iddo ef, a phob dyn yn ei fyddin, ddyfod i'w cynorthwyo i orchfygu ei hen elyn cyn gynted ag y