Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BARDDONIAETH.
O uchel fryniau Gwalia,
A'i dolydd ffrwythlon hi,
Y daethom i Columbia,
Mewn llongau ar y lli';
Rhag trais a du orthrymder,
Y Nef fu'n nawdd i ni;
A chawsom bob cyflawnder
O ryddid, da, a bri.
Ein hiaith dros byth siaradwn,
Yn groyw ac yn ber;
Llenyddiaeth bur goleddwn,
Tra llewyrch haul a ser;
A'r Beibl mawr a barchwn,
Fel dwyfol Air yr Ior;
A Christionogaeth gredwn,
Tra mynydd, a thra mor.
Tra can yr awen nefol
Yn Arfon ac yn Mon,
Bydd ei pher-odlau'n swynol
Ar diroedd y wlad hon:
Gan Gymry pur Columbia,
Hyd dranc yr olaf oes,
Pregethir Iawn Calfaria,
A rhinwedd gwaed y Groes.