Tudalen:Hanes Cymru America.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES CYMRY AMERICA.

PENNOD I.
RHAG—SYLWADAU.

"Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daiar—ac efe a wnaeth o un gwaed, bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; fel y ceisient yr Arglwydd."—Actau xvii. 24—27.

"Duw, yn y dechreuad, a greodd y nefoedd a'r ddaiar;" a'i "anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef, ei dragywyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt hwy yn ddiesgus." Gen. 1. 1. Rhuf. 1. 20. Ond, er hyny, y mae llawer o ddynion dysgedig a thalentog, ond o dueddfryd anrasol, wedi myfyriaw y cread, heb weled y Creawdwr; ac wedi ysgrifenu cyfrolau ar ryfeddodau anian, heb son gair am Dduw anian! ac y mae amrai o'n haneswyr dysgedig a medrus, wedi darlunio gwledydd a moroedd y byd, ac wedi cofnodi hanes gwahanol genhedloedd y ddaiar, a'u llywodraethau, a'u cynydd, a'u dylanwad, a'u cyfoeth, a'u gogoniant, heb ddewis gwybod, na chydnabod Llywodraeth y Goruchaf, na rhoddi iddo Ef. ei gyfiawn ogoniant! "Oblegid, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon an-