oedd eu poblogaeth ond bychan, na'u tiroedd diwyll iedig ond ychydig, na'u masnach a'u dylanwad ond egwan iawn. Ond safasant yn wrol dros eu hiawnderau; trwy frwydrau gwaedlyd trechasant eu gelynion a'u gormeswyr; prynasant wledydd eangfaith âg arian; a gorfodasant yr Indiaid i symud yn mhellach bellach i'r gorllewin, nes eu cyfyngu yn uchel-diroedd y Mynyddau Creigiog; a meddianasant eu tiroedd mwyaf dymunol a ffrwythol. Heblaw y tair-ar-ddeg o dalaethau a nodwyd uchod, y mae y talaethau a'r tiriogaethau isod wedi eu hychwanegu at yr Undeb, a than lywodraeth yr Unol Dalaethau, yn awr; sef, Maine, Vermont, Ohio, Indiana, Illinois, Michigan, Wisconsin, Iowa, Minnesota, Missouri, Kansas, Nebraska, Arkansas, Colorado, Texas, California, Kentucky, Tennessee, Lou isiana, Alabama, Mississippi, Florida, West Virginia, Oregon, Washington, Idaho, Montana, Dakota, New Mexico, Arizona, Utah, a Nevada. Ar ddechreuad yr Undeb, nid oedd gan y Llywodraeth Werinol newydd awdurdod ond dros ychydig o diroedd yn y dwyrain ar lanau y Werydd; ond erbyn heddyw y mae ei hawliau a'i hawdurdod yn cyrhaedd o'r Werydd i'r Tawelog, ac o'r llynoedd mawrion yn y gogledd hyd gyffiniau Mexico yn y de! ac y mae yn meddianu y tiroedd mwyaf ffrwythlon, y mwnau mwyaf gwerthfawr, a'r porthladdoedd, a'r llynoedd, a'r afonydd mwyaf cyfleus, yn nghyd a'r hinsoddau mwyaf tymherus ac iachusol, ar yr holl gyfandir mawr. Y mae ffurf-lywodraeth a deddfau y Weriniaeth fawr hon, i'w rhestru yn mhlith y rhai goreu a ysgrifenwyd erioed, ac a ddefnyddiwyd i lywodraethu dynion; cydnabyddant iawnderau a rhyddid gwladol a chrefyddol y bobl, sef y dinasyddion gweithgar, gonest, ac ufudd; gwnant y darpariadau goreu at addysgu eu plant yn mhob gwybodaeth fudd-
Tudalen:Hanes Cymru America.djvu/23
Prawfddarllenwyd y dudalen hon