Tudalen:Hanes Cymru America.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol; a pharchant ac anrhydeddant bob dyn o dalent, rhinwedd, a defnyddioldeb. Daliodd y prawf mwyaf tanllyd yn amser y GWRTHRYFEL diweddaf o eiddo caethfeistri y Talaethau Deheuol, a'u cefnogwyr; daeth allan yn fuddugoliaethus ac anrhydeddus, wedi rhoddi dyrnod marwol i gaethwasiaeth, (slavery,) a sefydlu rhyddid i'r Negro du, yn gystal a'r dyn gwyn, dros byth, drwy holl derfynau yr Undeb. Yr oedd llaw Duw i'w gweled yn amlwg yn hyny. Goruwch-lywodraethodd y rhyfel gwaedlyd, a'i ddrygau mawrion, er DIDDYMU caethiwed, a symud y gwarthnod du hwnw oddiar y Llywodraeth ryddgarol hon, a'i dyrchafu i fwy o urddas a dylanwad, yn ngolwg holl deyrnasoedd y ddaiar. Nid wyf am ei gorganmol, am fod iddi ei diffygion a'i drygau; ond y mae yn teilyngu canmoliaeth, am fod iddi ragoriaethau amlwg, a manteision mawrion.

Y cenhedloedd mwyaf lluosog a dylanwadol yn yr Unol Dalaethau ydynt y Saeson, y Scotiaid, yr Ellmyniaid, y Ffrancod, a'r Gwyddelod, y rhai ydynt er ys oesau wedi ymgymysgu a'u gilydd, a llawer o honynt yn ddisgynyddion y Tadau Pererinol, a'r dynion mwyaf dysgedig a duwiol a ymfudasant o wahanol wledydd Ewrop, ac a gyfenwant eu hunain yn awr yn Americaniaid, ac y mae y rhan fwyaf o honynt yn bobl ddysgedig a chrefyddol, gyda y gwahanol enwadau crefyddol efengylaidd, sef yr Eglwyswyr, y Crynwyr, y Cynulleidfawyr, y Presbyteriaid, y Bedyddwyr, a'r Trefnyddion Wesleyaidd, &c. Y maent yn bobl nodedig selog dros ryddid, addysg, a chrefydd, ac yn ddiarhebol am eu caredigrwydd i'r rhai a ymfudant i'w gwlad, ac a geisiant nawddle a chartrefi ynddi. Y mae eu heglwysi, eu hathrofäau, a'u hysgolion dyddiol a Sabbothol yn dra lluosog a dylanwadol drwy yr holl wlad; perthyna