i adeiladu eglwys arno oedd fel y canlyn:—Pa le bynag y bwriedid adeiladu lle i addoli arno, yr oedd person o dduwioldeb diamheuol yn cael ei ddewis i aros ar y fan hono am ddeugain niwrnod, yr hwn fyddai yn gweddio ac yn ymprydio dros yr amser a nodwyd;—yna yr oedd yn naturiol galw yr eglwys hono ar enw ei sylfaenydd.[1]
Cafodd eglwys Llangeitho ei sylfaenu a'i hadeiladu flyneddoedd lawer cyn iddi gael ei chyflwyno i Ceitho, oblegid yr oedd efe wedi marw flyneddoedd lawer cyn i hyny gymeryd lle; a phe buasai yn fyw, mae yn ddiamheu na fuasai yn foddlawn derbyn yr anrhydedd hwnw—nid chwennych clod yr oedd yr hen dduwiolion hyny, ond gwneuthur daioni oedd eu hamcan penaf.
Mab oedd Ceitho i Cynyr Farfdrwch, yr hwn a fu yn byw am amser yn Nghynwyl Caio, sir Gaerfyrddin. Mab oedd Cynyr i Gwron ab Cunedda Wledig, o hiliogaeth Beli Mawr, un o freninoedd yr hen Frutaniaid. Dywed Carnhuanawc mai enw gwraig Cynyr oedd Mechell, merch Brychan Brycheiniog. Yr oedd Ceitho yn un o chwech o frodyr, sef Gwyn, Gwyno, Gwynoro, Celynin, Ceitho, Y pump a Cai; a dywedir mai gefeiliaid oeddynt. blaenaf oeddynt seintiau, ac oddiwrthynt hwy y cafodd Pumsaint a Llanpumsaint eu henwau. Yr oedd Cai yn swyddog yn myddin Arthur, ac yr oedd hefyd yn frawdmaeth iddo. Un diwrnod, annghofiodd Cai ei gleddyf, ac aeth Arthur i'w geisio, ond methodd a'i gael; a'r canlyniad fu, iddo fyned a thynu y cleddyf o'r gareg, pan oedd pawb ereill wedi methu, a thrwy hyny iddo gael myned yn frenin.[2]
Yr oedd Ceitho yn byw rhwng y blyneddoedd 500