a 542. Dywedir ei fod yn y gymanfa hynod hono a gynaliwyd yn Llanddewibrefi yn 519, yn yr hon y pregethodd Dewi Sant yn erbyn Morganiaeth; ac iddo fyned oddiyno gyda St. Dyfrig i Ynys Ealli. Yr oedd Ceredig, brenin Ceredigion, yn frawd i Gwron, tadeu Ceitho, ac yr oedd yn gyfyrder i Dewi Sant. Yn fwy dealladwy, fe ddichon, fel y canlyn:—Ceitho ab Cynyr ab Gwron ab Canedda—Dewi ab Sandde ab Ceredig ab Cunedda. Ei gofwyl yw Awst 5.
Cafodd Eglwys Llangeitho ei chyflwyno i Ceitho rywbryd o fewn i'r seithfed ganrif; ond gan nas gwyddom pa bryd yn y ganrif hono, nís gallwn nodi pa frenin oedd yn teyrnasu ar Geredigion ar y pryd. Cawn enwau Seiriol a Brotheń yn teyrnasu o fewn y ganrif a nodwyd. Gellir gweled bellach fod cryn amser rhwng sylfaeniad yr eglwys gan Ceitho a'i chyflwyniad iddo.
Ar ganol y pentref, sef ar ben Parcel, y safai hen gapel Gwenfyl. Pa bryd y cafodd hwn ei adeiladu, nid yw yn hysbys; ond syrthiodd rywbryd yn yr 17eg ganrif. Dywedodd hen wraig wrthym, iddi hi glywed ei mam yn dywedyd fel y bu mewn priodasau ynddo. Rhaid ei fod wedi syrthio yn lled foreu yn yr 17eg ganrif, oblegid y mae yr hen wraig uchod wedi gweled tua 90 o flyneddau ar y ddaear. Y mae llawer yn fyw ag sydd yn cofio gweled cyfodi esgyrn dynol gerllaw i'r lle yr ydoedd, yr hyn sydd yn profi i gladdu fod yno,
Yn yr hen amser, gwelid nad oedd yr eglwysydd yn ddigon lluosog i gyfarfod ag angen y trigolion. Yr oedd rhai plwyfydd yn fawr, ac yn cyrhaedd hyd yn mhell, ac angenrhaid ddaeth i adeiladu capelau yn y cyrau pellaf. Cafodd amryw eu hadeiladu yn mhlwyf Llanddewibrefi, megys Gartheli, Betws Lleuci, Capel Gwenfyl, &c.