na ddeuwn o hyd i hanes am un gorchestwaith a gyflawnwyd yn y gymydogaeth hon, eto ni bu yn ol o ateb i'r ddiareb hono,
"Yn mhob gwlad y megir glew;"
oblegid dywed Aneurin, yn y Gododin, i "Ddeu gatki Aeron" ddianc o alanastra Cattraeth. Dywed, mewn lle arall, mai eu henwau oeddynt Cadreith a Chadlew.[1]
Oddeutu milltir a hanner i'r deau-ddwyrain o Langeitho y mae ffordd, yr hon a elwir Sarn Elen. Cyrhaeddai o Gaerfyrddin i Penallt, ger Machynlleth. Y mae ychydig olion o honi i'w gweled eto mewn amryw fanau. Yr oedd yn 80 o droedfeddi o led, a'i hechrau wedi eu gweithio o geryg, a'i chanol yn raean. Gelwid hi Sarn Elen, medd rhai, o barch i'r Frenines Elen, gwraig Cystenyn, 76 Amherawdwr Rhufain.[2] Ond gan fod gwersylloedd gan y Rhufeiniaid ar hyd y wlad, yn neillduol un ar y ffordd hon, y rhai a adeiladwyd ganddynt, a chan nas cafodd Cystenyn yr urddas amherodrol dan y flwyddyn 306, y mae yn hollol o le i feddwl iddi gael ei henw oddiwrth Elen. Barn ereill yw, mai llygriad yw Sarn Elen oddi wrth Sarn Lleon, neu Sarn y Lleng, oherwydd fod lleng Rufeinaidd yn aros yn Loventium. Beth bynag am hyna, mae yn amlwg ei bod o wneuthuriad Rhufeinaidd.
Fel y sylwyd, ar y ffordd uchod y safai yr hen dref Rufeinaidd Loventium, sef yn y fan lle saif y tyddynod Llanio Isaf a Llanio Uchaf yn bresenol. Mewn caeau perthynol iddynt cafwyd hen grochanau, arian, &c., oll o wneuthuriad Rhufeinaidd. Mewn cae cyfagos i'r lle