Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enwau yr Offeiriaid diweddaraf a fuont yn gweinidogaethu yn eglwys Llangeitho, y rhai y deuwn o hyd iddynt, ydynt y rhai canlynol,—y Parchn. Daniel Rowlands, tad Daniel Rowlands y diwygiwr; yn nesaf, John Rowlands, mab y blaenaf, a brawd i'r olaf; eto, John Rowlands, mab Daniel Rowlands y diwygiwr; a Hugh Lloyd; Thomas Edwards; a Mr. Evans, yr Offeiriad presenol. Priodol sylwi yma, fe allai, na fu Daniel Rowlands y diwygiwr yn gwasanaethu ynddi fel Periglor, ond fel Curad yn unig, am 10 punt y flwyddyn.

Nid oedd yn mhentref Gwenfyl, er ys tua 70 o flyneddoedd yn ol, ond 4 o deuluoedd; ond erbyn heddyw y maent yn 35, ac oddeutu 150 o drigolion, yn grefyddol oll oddieithr rhyw 20 o honynt. Arweinia o'r pentref hefyd bedair o ffyrdd, un i Aberystwyth, y llall i Trefgaron, y llall i Lanbedr, a'r olaf i Aberaeron. Sefydlwyd ynddo hefyd Lythyrdy, Gorphenaf, 1853, yr hwn sydd yn llawer o gyfleusdra i'r pentrefwyr a'r wlad.

Y lle cyntaf y dechreuwyd addoli yn y pentref uchod gan y Trefnyddion Calfinaidd, (yr unig enwad sydd yma,) oedd mewn hen ysgubor perthynol i Meidrim, yr hwn oedd yn meddiant Mr. Rowlands y pryd hwnw. Yr oedd hyny yn y flwyddyn 1757. Yn y flwyddyn 1760, a thua thair blynedd cyn i Mr. Rowlands gael ei droi allan o'r Eglwys Sefydledig, yr adeiladwyd capel bychan o furiau pridd â thô gwellt, 10 llath o hyd wrth 6 o led. Aeth y capel blaenorol yn rhy fach; ac yn y flwyddyn 1764, adeiladwyd un drachefn 45 o droedfeddi ysgwâr o fewn i'r mariau. Yr oedd y capel diweddaf yn cyd-redeg a'r cyntaf yr oedd ei dalcen yn agos i'r ffenestr sydd rhwng y ddau ddrws i'r capel presenol. Yr oedd iddo hefyd ddwy nen, cyplau y rhai a orphwysent 'ar