Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedair o golofnau ceryg, a chafn plwm i gario'r dwfr rhwng y ddau dŷ. Yr oedd iddo hefyd bedwar o ddrysau, un yn mhob talcen i bob un o'r ddwy ran o'r tŷ. Gelwid y ddau ddosbarth o'r ty, "Y ty nesa'r pwlpud" a'r "tỷ nesa'r allor," oblegid yr oedd y pwlpud yn un, a sedd y cymundeb yn y llall. Gelwid y pedwar drws wrth yr enwau "Drws y defaid" a'r "Drws côch," y rhai oeddynt i'r tŷ nesaf i'r pwlpud, "a Drws yr allor" a Drws y geifr," y rhai oeddynt i'r tŷ nesaf i'r allor. Yr oedd drws bychan i fyned oddiallan i'r pwlpud, ac nid oedd un lle arall i fyned i'r pwlpud ond drwy hwnw. Pan orphenid pregethu ar Sabbath y cymundeb, deuai yr Offeiriad allan drwy y drws bychan hwnw, ac elai o gwmpas y tŷ drwy ddrws yr allor i'r "allor;" a byddai y cymunwyr, ar ol derbyn y cymun, yn cilio allan, er mwyn i ereill gael lle, ac elent adref, oherwydd fod eu ffyrdd yn mhell.

Adeiladwyd y capel presenol rhwng y blyneddoedd 1813 a 1815; y mae yn mesur tuag 20 llath o hyd wrth 12 o led, oddifewa i'r muriau, ac amgylchynir ef âg oriel, oddieithr y talcen dwyreiniol. Costiodd y capel ei hunan tua £2000—addawyd ato mewn un society, cyn gwahanu yr hen gapel, £864. Yn y flwyddyn 1848, adeiladwyd tŷ i'r capel, yr hwn sydd dy hardd. Priodol, fe allai, fyddai sylwi yma, fod llawer wedi gadael y capel hwn er y dyddiad uchod, a ffurfio eu hunain yn gangenau ar eu panau eu hunain, megys Bethania, Bwlchyllan, Penuwch, yn y rhai, rhyngddynt, y mae tua 600 o aelodau. Y nifer sydd yn bresenol ar ol yn yr hen gapel ydynt tua 500.

Yn y flwyddyn 1600, yr oedd nifer o Bresbyteriaid neu Annibynwyr yn ymgasglu i weddio a phregethu mewn tyddyn tua millir i'r dwyrain o Langeithio, o'r enw