yn byw ynddi i'r tipyn; ond nid pregethu yn unig yr ydoedd,—yr oedd hefyd yn ymdrechgar i egwyddori yr ieuenctid—yn gweithio allan egwyddorion yr Ysgol Sabbathol, ond nid yn hollol yn y dull presenol, fe ddichon. Er ya tua o 40 i 45 o flyneddoedd yn ol, yr oedd dyn hen iawn o Gymro yn gorwedd mewn elusendy yn Llundain, a gweinidog o Gymru, oedd y pryd hwnw yn ieuanc, a'r hwn sydd eto yn fyw,[1] a aeth i ymweled åg ef. Cafodd yr hen wr yn hyddysg iawn yn y Bibl, ac yn deall pynciau athrawiaeth gras yn well na nemawr o'r werin. Gofynodd iddo, "pa fodd y daeth mor gyfarwydd yn y Bibl, ac yntau wedi cael ei fagu mewn oes pan nad oedd ond ychydig o Fiblau i'w cael?" "O!" meddai yntau, "Mr. Pugh anwyl a'm dysgodd, pan oeddwn ieuanc; ei hyfrydwch ef oedd cateceisio yr ieuenctid; a chydag ef yn Blaenpenal, sir Aberteifi, y dechreuais grefydda." Mae yn bur debyg mai yr hen bererin uchod oedd y diweddaf o ddysgyblion Mr. Pugh ar y ddaear.
Yn y flwyddyn 1718 y ganwyd y bythgofus Daniel Rowlands, yr hwn a fu yn fendith i filoedd. Yr oedd llawer o grefyddwyr gau Jones a Pugh, a lluawa wedi eu hegwyddori ganddynt cyn codi Mr. Rowlands; ond dylid cofio, er hyny, mai rhan fechan o'r trigolion oedd felly— yr oedd gwerin fawr y boblogaeth yn aros mewn tywyllwch, ofergoelion a gwag—chwareuon yn ffynu; ac ar y bryn uwchlaw eglwys Llangeitho y gwelid tyrfaoedd yn ymgasglu ar ol y gwasanaeth boreuol a gynelid yn y Llan ar foreu'r Sabbath, er traethu chwedlau, chwareu, &c. Yr oedd y wlad yn llawn drygioni,—cymylau duon anwybodaeth oedd yn fagwraeth i'r cyfan. Felly hynodwyd gwein-
- ↑ Y Parch. E. Rowlands, gweinidog yr Annibynwyr yn Pontypool.