Ni pharhaodd Mr. Rowlands i bregethu mor danllyd ag y mynegwyd ond tua dwy flynedd ar ol ei ddeffroad, oblegid cafodd ryddhad i'w enaid-cafodd drugaredd, a phregethodd hi i ereill.
Yr amser hwn y dechreuwyd cadw society yn hen eglwys Llangeitho. Ar ol diwedd y bregeth un tro, dywedodd Mr. Rowlands ei fod yn dymuno i holl benau teuluoedd ddyfod i'w gyfarfod ef i'r eglwys y Mercher canlynol, erbyn 12 o'r gloch. Yr oedd llawer o synu a dyfalu pa beth oedd yn ei wneuthur â hwynt; ond yno yr aethant, i gael gweled. Ar ol myned yno, ei neges yn benaf oedd eu hannog i godi addoliad teuluaidd. Llwyddodd gydag amryw i wneyd hyn, ond yr oedd yn beth mor ddyeithr, fel y galwent fyned ar ei gluniau "yn fyned ar eu traed a'u dwylaw." A mawr fu'r drafferth mewn ambell deulu i gael gan y plant a'r gwasanaethddynion i wneuthur felly, tra fyddai y pen-teulu yn gweddio. Cynghorodd hwynt i ddyfod yn nghyd y Mercher canlynol drachefn; a phan ddaethant, rhoddodd gynghorion cyffredinol iddynt mewn perthynas i fyw yn dduwiol. Dylid cofio mai i'r penau teuluoedd y dechreuwyd y society gyntaf; ond nid hir y bu cyn cael ei gwneyd yn agored i bawb a fyddent mewn trafferth am eu cyflwr.
Amgylchiad hynod mewn cysylltiad a Llangeitho oedd yr oedfa ryfedd hono y buwyd o 11 o'r gloch y boreu dan 5 o'r gloch y prydnawn yn yr eglwys. Yr oedd pawb wedi cael eu meddiannu gan ysbryd a nerth y gair, fel nad oeddynt yn deall iddynt fod yno dros awr. Pan orphenodd Mr. Rowlands, ac iddynt fyned allan, gwelent fod yr haul ar fachludo. Nid oedd dim gwaeddi a moliannu yn yr oedfa hon. Amgylchiad hynod arall oedd i'r oriel dori ar amser yr oedfa. Yr oedd yr oriel hono uwchben y