Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oherwydd pellder y ffordd. Os byddai yr hin yn ffafriol, hurient gwch pysgota i'w trosglwyddo o Aberdyfl i Aberystwyth, a chychwynent ddydd Gwener. Ond os i'r gwrthwyneb y byddai, cychwynent ddydd Iau ar eu traed dros y tir drwy Abermawddwy[1], ac yr oedd cytundeb rhyngddynt ag ereill i gyfarfod erbyn 9 o'r gloch boreu dydd Sadwrn wrth ryw ffynon yn Llangwyryfon. Wedi iddynt fwyta bara a chaws, ac yfed o ddwfr y ffynon, ac i ddau neu dri fyned i weddi, cychwynent yn lluoedd i Langeitho erbyn canol dydd ddydd Sadwrn. Nid rhyfedd fod y fath bobl yn cael J fath wledd wedi gwneyd y fath aberth, gan eu bod mor llawn o grefydd ar hyd y daith.

Yn mhlith y lluaws ymwelwyr âg yma yn y flwyddyn 1748, canfyddwn enwau Iarlles Huntingdon a'i dwy ferch, yn nghyd â'r Arglwyddesau Anne a Frances Hastings.

Nid oedd oedfa yn cael ei chadw gan y Methodistiaid ar hyd y wlad o amgylch ar "Sabbath cwrdd mawr" ond yn Llangeitho yn unig. Buasai cynal cyfarfod gweddi ar yr awr hono yn sir Gaerfyrddin yn tynu cerydd eglwysig, os nad diarddeliad. Gweler hanes bywyd Mr. Rowlanda, gan y Parch. John Owen, a "Methodistiaeth Cymru,” gan y Parch. John Hughes.

Heblaw Mr. Rowlands, bu yn Llangeitho hefyd amryw o weinidogion ereill, yn nghyd â chynghorwyr. Wedi marwolaeth y Parch. Philip Pugh, daeth un o'r enw Thomas Gray i ofalu am eglwysi Abermeurig a Llwynpiod. Yr oedd hwn yn bregethwr call, ac yn ddyn duwiol iawn. Yr oedd yn Annibynwr pan ddaeth i'r gymydogaeth hon gyntaf; ond oherwydd ei serch neillduol at Mr. Rowlands, trodd ef a'r ddwy eglwys yn Fethodistiaid.[2]

  1. Abermawddach / Abermaw
  2. Gwel hanes Mr. Gray yn y Gelniogwerth, CyL IV., t. d. 209.