Mr. Rowlands yn darllen y geiriau hyny, "Trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd," &c. Yr ail, mewn cyfarfod gweddi. Y trydydd, yn y flwyddyn 1781, yn y capel, a'r hwn a elwir "y diwygiad mawr." Ond heblaw rhai a gymerasant le yn ei amser ef, bu rhai ereill drachefn. Y cyntaf yn 1790, yn mhen tua mis ar ol marwolaeth Mr. Rowlands. Y llall yn 1796. Yn 1804, un drachefn. Tua'r Pasg, 1811, un eto. Un arall 1812. Yn 1824, un grymus iawn. Yn 1832, ar ddydd olaf y Gymdeithasfa, pan oedd y Parch. W. Evana, Tonyrefail, yn pregethu oddiar y geiriau hyny, "Gwyn fyd preswylwyr dy dy," &c., dechreuodd un drachefn.[1] Yn ngwanwyn y flwyddyn hon (1859) torodd diwygiad grymus allan yn y sir hon; a chlywir sain cân o fewn murian capel Llangeitho-y fan Ile bu tyrfaoedd Rowlands yn moliannu, clywir wylofain y genedlaeth hon. Ymunodd a'r eglwys yn y capel tus 200 yn y diwygiad hwn, heblaw y rhai sydd wedi ymuno yn yr Eglwys Sefydledig.
Bu y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cael ei ddarllen bob mis yn yr hen gapel, ac un o'r blaenoriaid, Dafydd Evan Hugh, yn llanw lle clochydd. Llwyddwyd i'w droi ymaith drwy roi bechgyn i adrodd pennodau o'r Testament Newydd yn ei le. Cyfnod pwysig arall yn ei gysylltiad â Llangeitho oedd, urddo gweinidogion heb fod yr urdd yn Esgobawl. Safodd yr hen bobl yn groes i hyny, a dyna oedd yr achos i'r Gymdeithaafa fyned i Landeilofawr y flwyddyn hono, sef 1811. Gwir iddynt daflu fel esgus y buasai lease y capel yn cael ei pheryglu, ond esgus yn unig oedd. Yr oedd y lease wreiddiol ar goll yr amser hwn, a gwnaed un newydd o 99 o flyneddau yn lle 999; ond cafwyd y wreiddiol cyn hir yn Llanymddyfri.
- ↑ Methodistiaeth Cymru," Cyf, II., t, d. 17.