Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn dyn-dyna beth sobor! Mae na glap o afu yn nhumewn dyn—dyna beth sobor! Mae gan ddyn goluddion yn i fol wyth troedfedd arhugain o hyd—dyna i chi beth sobor!" ac ymlaen yn yr un dull, gan nodi'r naill bwnc ar ol y llall yn araeth ei ragflaenydd, nes bod y gynulleidfa wedi ymollwng i chwerthin aflywodraethus. Y colyn yn y cellwair ydoedd na ddywedodd efe ddim ond a oedd y siaradwr blaenaf ei hun wedi ddweyd, ac mai ar ben araeth hwnnw, mewn gwirionedd, yr oedd pawb yn chwerthin mor drahauslyd. Fel rhyw Ddewin Raggatt arall (un o henafiaid y teulu Raggatt a fu yn Llanrug ond odid), na pheidiodd mo'r cyfeiriadau ato yn llwyr yn Arfon hyd o fewn rhyw drigain mlynedd yn ol, fel y gŵyr yr ysgrifennydd oddiwrth fygythion mam, gallai Arthur Jones, drwy rym gorcheiniaeth fwy ysbrydol nag eiddo Dewin Raggatt, ddwyn allan o'i fynwes yntau arlantau o swyn-flodau â'u sawr yn fwy parhaus nag eiddo'r dewin, a rhodio ymhlith dynion mewn gwisgoedd llaesion o swyn-flodau Paradwys,—sef y Baradwys Nefol i Arthur Jones, p'run ai nefol ai daearol i'r dewin,—a weuwyd ynghyd gan chware-gelfyddyd Ysbryd Blodeuas.

Yr oedd y Parch. Robert Thomas (Ap Fychan) yn siaradwr tra effeithiol ar ddirwest yn ei ffordd ef. Yr oedd ei bersonoliaeth bwysig, hawddgar, braf, yn gynorthwy nid bychan iddo; a'i lais, hefyd, oedd gryf a llawn a meddal a soniarus. Meddai ar bwyslais arbennig a nodweddiadol, a hwnnw pan fynnai yn drwm neu ynte yn hirllaes, gan awgrymu ymdeimlad llawn â'r digrifol, er i'r dull fod yn sych-ddifrif ynghanol y digrifwch mwyaf. Fe ddeuai elfennau ysgafnaf ei nodweddiad, ag oedd yn eithaf amlwg ar bob pryd, i chwareuaeth lawn ar ddirwest, ac âg ambell syniad fe gyffroai gynulleidfa yn anarferol. Mewn cyfarfod dirwest ym Mangor fe geisiodd gweinidog o'r un enwad ag ef ei hun roi sen iddo oherwydd ei fod yntau yn ymarfer â'r dybaco. Fe ymosododd y gweinidog yn o drwm ar yr arfer honno, a nododd allan faintioli y dâs dybaco a arferid bob blwyddyn yn y deyrnas: yr ydoedd yn hyn a hyn o latheni o hyd ac o led ac o uchter, tâs anferthol o anferthol o faint, chwedl y Bardd Cwsg am draed y dduwies Pechod. Wrth ymosod ar yr arfer â'r dybaco fe droai y llefarwr yn awr ac eilwaith i dôn Ap Vychan, er dangos ei fod ef o dan y cerydd, a deallai bawb yr ergydion. Fel cadeirydd y cyfarfod fe god-