odd Ap Vychan ar ol y llefarwr, a chyfeiriodd at y "dâs," ei hyd a'i lled a'i huchter; ac yna, gan newid y dull sychlyd blaenorol i'r dull rhadlon oedd mor nodweddiadol ohono, a chan nodi allan weinidog y Bedyddwyr a oedd yn y cyfarfod, ac yn adnabyddus fel mygwr, ac yn mawr fwynhau i olwg pawb yr ymdrafod ar y pryd, ebe fe,—"Mi fuasai'n braf ar hwn a hwn a minnau, yn eiste' i lawr yn i chysgod hi, a—i [yn enbyd o hirllaes] smocio hi!" Yr oedd yr "a-i" mor hirllaes a thrwm a rhadlon, y dull mor bwysleisiol ac mor annisgwyliadwy o ddigrifol, ac yn y dymer oreu, fel y cyffrowyd y bobl i'r chwerthin mwyaf a glywyd erioed na chynt na chwedyn gan y gweinidog a oedd wedi gwneud yr ymosodiad, canys efe ei hun ymhen blynyddoedd lawer a adroddodd yr hanes wrth yr ysgrifennydd, ac yntau'r gweinidog erbyn hynny yn henwr. Y cyfryw ydoedd grym Ap Vychan yn y digrifol.
Wele enghraifft arall, ond yn gysylltiedig â'i arddull ddychmygol a'i ddawn i greu anferthlun o'r peth a ddisgrifid. Ar ol adrodd hanesyn digrifol yr oedd ganddo ryw ddull o chwanegu rhyw hy-hy-hy dwfn yng nghorn ei wddf, mewn dull digrif, sychlyd, ond awgrymiadol, a fwyhae'r effaith yn ddirfawr weithiau, fel y tro yma. A meddai ef yn llawn y difrifwch sych hwnnw sy'n gweddu cystal i'r digrifwch mwyaf i gyd. Dadleu yr oeddis ymhlaid yr Alliance ym Moriah, Caernarvon, a'r pwnc ar y pryd oedd hudoliaeth y ddiod i lawer o bobl. Rhoe enghraifft o ffermwr ieuanc wedi etifeddu fferm ragorol ynghyda dodrefn tŷ a beudai llawn eidionnau. Eithr yr oedd ef ei hun wedi dechre dod dan ddylanwad y chwant at y ddiod, ac ni bu nemor heb "lyncu'r" cwbl. Yna fe gydiodd yn y meddwl yma am lyncu'r etifeddiaeth. Gwerthu'r naill beth ar ol y llall a llyncu'r cwbl. Wrth fyned ymlaen yr oedd pwyslais digrifddwys y "llyncu" yn anwrthwynebol. Fe seinid y gair yn ddynwaredol-llync-u, ac yn fwyfwy pwysleisiol: "Mi lync-odd y tŷ a'r dodrefn o'i fewn! [chwerthin] mi lync-odd y celfi hwsmon- aeth! [chwerthin] mi lync-odd y caeau a'r gwrychoedd drain! [chwerthin mwy] mi lync-odd y defaid gwlanog! [cryn chwerthin] mi lync-odd y gwartheg a'u cyrn ar eu pennau! [chwerthin]-hy-hy-hy! [chwerthin mawr]." Yr oedd rhyw dôn ddifrifddwys yn yr adroddiad, a rhywbeth yr un pryd yn ddigrif odiaeth. O'r tucefn i'r cwbl fe deimlai pawb fod yr hanesyn yn un addysgiadol. Tymer lon, obeithiol oedd yr