Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perffaith natur mewn lliw a llun, fel y dengys yr ysgrythur,—beth mae nhw'n ei yfed? Dwr glân gloew. Y meirch a'r eidionnau wedyn, y mwyaf gwasanaethgar ar ddyn o'r holl greaduriaid; yr eliffantod a'r teigrod a'r llewod hefyd, rhyfeddodau natur a'i harddwch ym myd y bwystfilod,—onid dwr ydyw eu diod nhwythau? A'n mam ni oll, yr Efa y lluniwyd ni ohoni, sef yr hen ddaearen yma, a edrych yn well bob blwyddyn na'i gilydd, gan adnewyddu ei hieuenctid fel yr eryr, gan ymdrwsio ac ymdaclu ar gyfer dyfodiad y Priodasfab,—beth ydyw ei diod hithau? Onid yfed y glaw sy'n mynych ddyfod arni y bydd hithau ynte?"

Tebyg mai'r Parch. Daniel Rowlands, M.A., oedd y mwyaf hyddysg yn y pwnc yn ei holl agweddau o neb a fu yn Arfon, os nad yng Nghymru. Mi sgrifennodd lawer arno o bryd i bryd yn y Traethodydd, yn enwedig yn ei agweddau gwleidyddol. Fe bregethodd nid ychydig arno o bryd i bryd yn ystod oes faith, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf ym Mangor, a chyn hynny mae'n debyg. Diau fod lliaws yn cofio am ei destynau yn y cyfnod hwnnw: Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, Melldigwch Meroz, ac eraill. "Nac edrych," hyd yn oed. Fel y pwyleisiodd hynny! Y fath argraff oddiwrth hynny ar yr ieuanc diniwed! "Melldigwch Meroz am na ddaethant yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn, sef nid am yr hyn a wnaethant, ond am yr hyn ni wnaethant,' ac, yn y wers, am beidio â dod allan yn erbyn y gelyn meddwdod. Y pryd hwnnw yr oedd y llefarwr yn ei holl fywiogrwydd a llymder ac ysgythredd, a'r dull ymosodol cryf yn un mor newydd ym mhulpud Engedi, ac ymadroddion disgrifiadol y testun yn cael eu mynych adrodd a'u pwysleisio, fel nad allai'r argraff oddiwrthynt ddim diflannu. Areithiau dirwestol di-gymysg oedd y pregethau cynarol hynny. Ymhelaethid ar effaith niweidiol hyd yn oed yr "yfed cymedrol a gamenwid felly," sef dau beint o gwrw yn y dydd, fel yr eglurid. Rhoid manylion tystiolaethau cymdeithas yswiriol yr Alliance, yn dangos y gwahaniaeth yn hyd hoedl dyn rhwng yfed cymedrol a llwyr ymataliaeth. Y maeth a geid mewn chwart o gwrw hefyd, sef" cymaint a allesid ei ddal ar flaen pencneiff." Dygid gerbron dystiolaethau i'r effeithiau niweidiol gan " feddygon uchaf y deyrnas," sef oeddynt hwy neb amgen na Syr Benjamin Brodie a'r Dr. Carpenter a'r Dr. Higginbottam o Nottingham,