Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyffelyb wŷr a hynny, "nid rhyw grach-feddygon "—a'r fath bwyslais diystyrllyd ar y gyfran gyntaf o'r gair cynghlwm yna! Fel yr elai'r crach-feddygon, sef y meddygon cartrefol, debygid, yn ddiddim yngolwg y meddwl ieuanc! Tebyg fod y llefarwr yn ei rym mwyaf ynglyn â phynciau buchedd ymarferol; a chlybuwyd ef, yn enwedig mewn blynyddoedd diweddarach, yn llefaru yn wir ragorol ar y pwnc yma a rhai pynciau eraill o'r nodwedd ymarferol. Yr oedd arbenigrwydd yn perthyn iddo o ran y cyfuniad o wybodaeth fanwl o bwnc dirwest yn ei wahanol agweddau ynghyda nerth ymosodol, cystal ag mewn llarieidd-dra yn ei flynyddoedd diweddaf, a flagurodd allan o'r tanbeidrwydd llymdost blaenorol.

Fe ddaeth Morris Hughes y Felinheli i sylw yn arbennig fel amddiffynydd i ddirwest drwy'r wasg. E fu galw am dano fel siaradwr cyhoeddus ar ddirwest dros ben hynny, fel ag yr oedd wedi bod ynglyn â'r gymdeithas gymedroldeb. Yr ydoedd ef wedi darllen ar y pwnc yn fwy na'r rhan fwyaf, ac yr oedd anian yr ymresymydd ynddo, a gwerthfawrogid ef gan liaws o'r herwydd. Eithr ni feddai mo'r ddawn boblogaidd fel siaradwr. Yr ydoedd, pa wedd bynnag, yn ysgrifennydd medrus. Fe ddaeth Caledfryn allan yng ngrymuster ei ddawn yn erbyn dirwest ar ei chychwyniad. Atebwyd ef gan Morris Hughes, ac yn gymaint a'i fod wedi efrydu'r pwnc, yr oedd ei ragoriaeth yn amlwg i'r sawl a chwiliai am resymau. Fe gyfrifid, hefyd, y medrai ddefnyddio gwawdiaeth yn effeithiol. Rhoes ail ateb Morris Hughes derfyn ar y ddadl, a chafodd ei draethawd hwnnw ledaeniad helaethach yn y wlad na'r un arall ar y pwnc yn ystod y blynyddoedd hynny. Yn 1844 fe gyhoeddodd lyfr helaethach drachefn ar y pwnc. (Cofiant Morris Hughes, t. 84.)

John Roberts y llyfrwerthydd, ymhlith gwŷr lleyg, oedd yn fwy na neb arall, yn enau cyhoeddus o blaid dirwest yn y Felinheli. Yr oedd wedi ei eni yn siaradwr. Meddai'r ddawn ysgafn sy'n chware ar y wyneb: medrai gyffroi chwerthin a chymell dagrau. Wrth fyned ymlaen ar awel ysgafn, fe ymhoewai ei feddwl ac fe ymsioncai ei deimlad, ac wedi ei godi felly i'r awyr nid oedd raid iddo ond lledu ei esgyll na chludid ef yma a thraw heb roi ond mymryn o gyfeiriad mewnol iddo'i hun. Ac wrth ennill goruchafiaeth felly arno'i hun fe'i henillai yr un pryd ar y gwrandawyr. Eithr nid dawn oedd y cwbl, ond