Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth, ys dywed y Rheol Buchedd Sanctaidd, iddo ef ydoedd ei ofalon bydol. Y ddrychiolaeth, nid y gwrthrych o'i flaen, a lywodraethai ei feddwl. Drwy'r dychymyg yn bennaf yr enynnid ei deimlad. Fe wnaeth lawer dros eraill, a hynny a'i cadwodd rhag penboethni llwyr.

"Fel y camelion fe'i porthid yn gymaint a dim gan dân. Nid rhyfedd ei fod yn deneu o gorff. Oni ddywedir fod yr Awen yn deneu? Mi welais yn rhywle ei chyffelybu i Rosinante, sef caseg y Don Quixote, ag yr oedd ei hesgyrn piglym yn watwargerdd pob edrychydd. A chyffelyb i Rosinante oedd Awen Sion Robyn.

"Yr oedd rhyw aiddgarwch ynddo wrth olrhain pwnc dirwest nid anghyffelyb i eiddo'r cudyll coch a dry mewn cylchoedd tuag i fyny heb ond prin ysgwyd ei aden; a thrachefn pan ergydiai at dafarnwr neu yfwr cymedrol fe ddisgynnai fel y gudyll o'r awyr â'i ben i waered a'i edyn yn dynn yn ei ystlys, gan awgrymu i'r meddwl saeth lem tywysog yr awyr. Yr oedd rhywbeth ynddo tebyg i'r hyn a ddywedir am y Neapolitaniaid, sef bod cymdogaeth y llosgfynydd yn rhoi rhyw gyffro trydanol yn eu holl feddyliau hwythau, p'run ai llon ai lleddf. Ac i Sion Robyn pwnc dirwest oedd y llosgfynydd hwnnw; ac ni fyddai fyth na welid y fflam yn dod allan o'i geudod. Ac nid ysbeidiau maith a brofid, ychwaith, heb i'r ufel berwedig ymarllwys, gan dduo'r awyr a chladdu meysydd a gwinllanoedd o'r golwg. Nid annhebyg ddarfod i'w brofedigaethau masnachol awchlymu ei sêl ddirwest. Fel y sêr, wedi y brather hwy gan y barug, aeth ei lewyrch yntau yn llymach ar dywyll fentyll nos.

"Un fantais o'i ysbrydiaeth barhaus oedd na churai efe mo'r haearn heb fod yn boeth, a phan welid yr ordd yn chwifio yn yr awyr gwybyddid fod y deunydd yn dwymias wreichionllyd. Ni adawai mo'r gof ei efail na dydd na nos: mud-losgai'r tân ar y pentan yn ddidor, ac ar alwad fe'i chwythid â meginau annwn. Ac yna, wedi ystumio'r erfyn yn ddyladwy, fe'i tymherid drachefn yng nghrwc dwfr iasoer gwatwareg. Ac nid oedd ganddo mo'r cydymdeimlad lleiaf â rhyw ddynion hanner a hanner; y naill hanner ohonynt yn y peth yma, a'r hanner arall mewn peth arall eithaf croes i hynny. Mi a'i clywais rai troion yn cyfeirio at ddynion a gefnogai, ar y naill law, achos crefydd, ac, ar y llaw arall, y fasnach mewn diod, gan ym-